- Dyfarnwyd contract 5 mlynedd newydd 2006-2011 i Gyngor Caerdydd, trwy broses dendro gystadleuol. Mae'r trefniadau cytundebol wedi'u gweithredu'n llwyddiannus ac mae'r Cyngor yn parhau i weithio gydag ystod o randdeiliaid i hyrwyddo dulliau cyfathrebu da a darparu gwasanaeth o ansawdd uchel. Roedd y Cyngor hefyd yn llwyddiannus wrth integreiddio'r Gwasanaeth Llety Dros Dro mewn i waith y Tîm Lloches ac mae hyn wedi arwain at fwy o hyblygrwydd a'r posibilrwydd o rai pobl yn gallu aros yn eu llety tra'u bod yn disgwyl 'caniatâd i aros'.
- Parhau i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol i geiswyr lloches a ffoaduriaid a hwyluso gwell mynediad at wasanaethau gofal iechyd y brif ffrwd.
- Datblygu ystod o brojectau'r sector gwirfoddol wedi'u cynllunio i ddarparu cymorth a chyngor i geiswyr lloches, er enghraifft project 'YANA' SOVA (cefnogi eraill trwy weithgarwch gwirfoddol) project 'EQUAL' Cyngor Ffoaduriaid Cymru (CFfC) a 'Meddwl Iach yn y Gwaith' Hefyd mae Alltudion ar Waith wedi datblygu cynllun 'Parodrwydd i weithio'.
- Sicrhaodd CFfC gyllid i ddarparu 'Gwasanaeth Un Stop' 2008-2008. Roedd hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau i alluogi ceiswyr lloches i ddelio ag ymholiadau mewn perthynas ˆ'u cymorth, i gael mynediad at ystod o wasanaethau ac i ddarparu canolbwynt i sefydliadau'r sector gwirfoddol sy'n gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, gan gynnwys Sefydliadau Cymunedau Ffoaduriaid (SCFf).
- Dyfarnwyd y gwasanaeth Llety Cychwynnol Amlap ar gyfer Cymru a De-orllewin Lloegr (NAM) i CFfC.
- Cyfrannodd ystod o asiantaethau at Strategaeth Cynhwysiad Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- Darparwyd sesiynau codi ymwybyddiaeth i holl Reolwyr Meddygfeydd Teulu yng Nghaerdydd, gan esbonio'r broses Model Lloches Newydd ac effaith hyn ar iechyd.
- Bu cydweithio rhwng asiantaethau cadarnhaol i hyrwyddo cydlyniad cymdeithasol trwy gyfathrebu da a mentrau cydweithio, er enghraifft mae gan Heddlu De Cymru swyddog cyswllt penodol ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
- Mae Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd wedi comisiynu Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro i ddarparu gwasanaeth sgrinio a arweinir gan nyrsys ar gyfer pob ceisiwr lloches sy'n cyrraedd a chynnal asesiadau iechyd yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.
- Cychwynnodd Sefydliad Tai Taf gynlluniau tai trosiannol ar gyfer ffoaduriaid i'w galluogi i gael mynediad at dai yn y cyfnod byr wedi derbyn 'caniatâd i aros' a derbyn cyngor pellach ar arweiniad i symud ymlaen i ddarpariaeth tai'r brif ffrwd.
Grŵp Cynllunio Ymgynghorol ar gyfer Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
Mae Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles 2008-2011 Caerdydd "Gweithio Tuag at Ddinas Iach" yn nodi iechyd a lles ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghaerdydd fel un o'r blaenoriaethau.
Datganiad Cenhadaeth
Mae Grŵp Cynllunio Cynghori Rhanddeiliaid Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yn hyrwyddo iechyd a lles ceiswyr lloches sydd ar wasgar yng Nghaerdydd a ffoaduriaid sydd am aros yng Nghaerdydd. Mae'r grŵp yn fforwm rheolaidd ar gyfer asiantaethau allweddol i drafod materion sy'n gysylltiedig â rhoi cymorth a darparu gwasanaethau i Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid yn ardal Caerdydd a darparu gwybodaeth i hysbysu'r broses gynllunio.
Cyflawniadau Allweddol 2005-2008:
Blaenoriaethau a Nodau Strategol Allweddol 2008-2011:
- Hyrwyddo gwella iechyd trwy weithredu'r Cynllun Gweithredu ar Iechyd Grwpiau Digartref ac Agored i Niwed
- Lleihau anghydraddoldebau cymdeithasol trwy gryfhau sail y wybodaeth mewn perthynas â materion cydraddoldeb ar gyfer Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
- Datblygu adnoddau tai ychwanegol ar gyfer ffoaduriaid unigol nad oes ganddynt flaenoriaeth angen, yn enwedig metrau llety 'symud ymlaen' sy'n darparu llety i bobl pan gânt 'ganiatâd i aros' yn gyntaf
- Cefnogi sefydlu swydd ar gyfer gwaith datblygu iechyd i gynnwys iechyd rhywiol, iechyd meddwl, nam corfforol a synhwyraidd a mynediad at ofal cymunedol a gwasanaethau gofal eilradd
- Cyfrannu at ddatblygu Strategaeth Iaith a Chyfathrebu Caerdydd
- Cefnogi datblygiad parhaus Sefydliadau Cymunedau Ffoaduriaid
- Cefnogi darparu hyfforddiant, gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am geiswyr lloches a ffoaduriaid ar draws ystod o sefydliadau a gwasanaethau
- Cefnogi mentrau sy'n hyrwyddo cydlyniad cymdeithasol
- Datblygu gwasanaethau ychwanegol i ddiwallu anghenion iechyd meddwl canfyddedig ceiswyr lloches a ffoaduriaid (oedolion a phlant) trwy ddarparu cwnsela a chymorth
- Helpu i ehangu'r ddarpariaeth Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill i alluogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid i ddysgu Saesneg fydd yn hwyluso cynhwysiant
Partneriaid y Grŵp Cynllunio Cynghori Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
- Cymorth Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cyngor Caerdydd
- Ymarfer Mynediad Iechyd Caerdydd
- Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd
- Clearsprings Management Ltd.
- Alltudion ar Waith (DPIA)
- Sefydliad Rhyngwladol Ymfudo
- Canolfan Byd Gwaith
- Llais Ffoaduriaid Cymru
- Heddlu De Cymru
- SOVA (Cefnogi Eraill trwy Weithgarwch Gwirfoddol)
- Cymorth Ceiswyr Lloches Asiantaeth Ffiniau'r DU
- Partneriaeth Ymfudo Strategol Caerdydd
- Cyngor Ffoaduriaid Cymru
Dogfennau Allweddol
- Cylch Gorchwyl Grŵp Cynllunio Cynghori (pdf)
- Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid: Canllaw ar gyfer tai a darparwyr gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru (pdf)
- Pennod Ceiswyr Lloches Asesiad Anghenion Caerdydd (pdf)
- Rhaglen ASERT Iechyd Cymru: Gwella Tystiolaeth Hyrwyddo Iechyd ar gyfer Grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig, Ffoaduriaid/Ceiswyr Lloches a Sipsiwn-Teithwyr (pdf)
- Pennod Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ar Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid (pdf)
- Cynllun Gweithredu Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles - Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid (pdf)
- Cynllun Gweithredu Tai Ffoaduriaid (pdf)
- Strategaeth Cynhwysiad Ffoaduriaid (pdf)
Dolenni Eraill
- ICAR: Canolfan Wybodaeth am Geisiwyr Lloches a Ffoaduriaid
- Gwefan Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Llywodraeth Cynulliad Cymru
(gyda mynediad at Strategaeth Cynhwysiad Ffoaduriaid a Chynllun Gweithredu Tai Ffoaduriaid) - Gwefan "Keep a Welcome" Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Gwefan Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Health for Asylum Seekers and Refugees Portal
Cyswllt
Rheolwr Gweithredol
Cyngor Caerdydd
Tîm Ceiswyr Lloches
48 Heol Splott
Caerdydd
enquiries@cardifflhb.wales.nhs.uk
healthalliance@cardiff.gov.uk
