- Cynyddu faint o wybodaeth benodol sydd ar gael i ofalwyr a ddarparwyd gan y Cyngor ac amryw o sefydliadau gwirfoddol trwy gylchlythyrau a chyfarfodydd rheolaidd.
- Strategaeth Gofalwyr Ifanc wedi'i datblygu ac mae Gweithiwr Datblygiad Gofalwyr Ifanc wedi'i benodi i weithredu'r Strategaeth.
- Cyllid wedi'i ddarparu gan Wasanaethau Oedolion, Cyngor Caerdydd i ddarparu Canolfan Gofalwyr alw heibio bwrpasol.
- Mae gwasanaethau ychwanegol i ofalwyr pobl sydd ag anghenion iechyd meddwl wedi eu cyllido trwy Wasanaethau Oedolion, Cyngor Caerdydd.
- Cynhyrchodd Project Datblygiad Iechyd Meddwl 'Directions', canllaw i ofalwyr pobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl.
- Cynyddodd Canolfan 'Upna' i ofalwyr lleiafrifoedd ethnig o sesiynau bob pythefnos i sesiynau bob wythnos a phenodi gweithiwr datblygu.
- Cyllidodd Gwasanaethau Oedolion Fforwm Gofalwyr Caerdydd, a hwyluswyd gan y Ganolfan Gofalwyr.
- Lansiwyd gwasanaeth cyngor dros y ffôn a chwnsela i berthnasau/gofalwyr cleientiaid sy'n dioddef o ddementia o'r enw SOLACE ym mis Hydref 2006. Mae'r staff yn trefnu cyfarfodydd cymorth rheolaidd i ofalwyr a thrafodir/trefnir pynciau a siaradwyr pwysig yn y cyfarfodydd hyn.
- Mae gofalwyr nawr yn rhan o hyfforddiant nyrsys fyfyrwyr (cangen iechyd meddwl) gan siarad â'r myfyrwyr am eu profiad o fod yn ofalwr.
- Mae ystafell alaru arbennig ar gael yn Ysbyty'r Eglwys Newydd gydag arbenigedd nyrsio i gynorthwyo'r rhai sy'n galaru i ddod i delerau â'u colled, mewn amgylchiadau cyfrinachol a phriodol.
Grŵp Cynllunio Ymgynghorol Gofalwyr
Un o flaenoriaethau Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd 2008-2011 yw gofalwyr.
Datganiad Cenhadaeth
Mae'r Grŵp Gofalwyr yn ymwneud â phob agwedd o'r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Mae Cynllun Gofalwyr Caerdydd yn rhoi'r cyfeiriad strategol a'r meysydd gweithredu ar gyfer y Grŵp.
Cyflawniadau Allweddol 2005-2008:
Blaenoriaethau a Nodau Strategol Allweddol 2008-2011:
- Hyrwyddo gwell iechyd i ofalwyr, gan nodi'r prif faterion iechyd sy'n effeithio ar ofalwyr trwy grŵp gorchwyl a gorffen iechyd Grŵp Cynllunio Cynghori Gofalwyr.
- Lleihau'r anghydraddoldebau i ofalwyr a hyrwyddo mynediad cyfartal trwy barhau i chwilio am ffyrdd o sicrhau bod gofalwyr o bob cymuned a chefndir yn gallu cael mynediad at eu hanghenion unigol.
- Darparu seibiant addas, gan nodi'r math o seibiant sy'n addas ar gyfer gofalwyr i sicrhau y gellir cynnal eu rôl ofalgar.
- Datblygu'r wybodaeth i ofalwyr ymhellach, mewn fformatau hygyrch, Cymraeg Clir, ac ar amserau addas trwy gydol eu rôl fel gofalwyr.
- Cynyddu nifer y gofalwyr sy'n hysbys i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn hwyluso'r broses o gwblhau Asesiad y Gofalwr.
- Cynyddu'r gydnabyddiaeth a gwybodaeth am a ofalwyr trwy Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Gofalwyr, yn enwedig mewn hyfforddiant sefydlu gwasanaethau cymdeithasol.
- Gweithredu polisïau sy'n ystyriol i ofalwyr yn y Cyngor a'r GIG a defnyddio'r rhain fel arfer da ar gyfer cyflogwyr eraill yng Nghaerdydd.
- Gweithredu'r ffyrdd mwyaf ymarferol ac effeithiol o gynnwys gofalwyr wrth gynllunio a datblygu gwasanaethau.
- Parhau i annog cydweithio rhwng sefydliadau'r sectorau statudol, gwirfoddol a phreifat i ddarparu ystod o wasanaethau i ofalwyr a sicrhau yr ystyrir gofalwyr ym mhob agwedd ar ddarpariaeth gwasanaethau.
Partneriaid y Grŵp Cynllunio Ymgynghorol Gofalwyr
- Y Ganolfan Gofalwyr
- Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd
- Cyngor Caerdydd - Gofalwyr
- Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro
- Project Datblygu Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro
- Cyngor Iechyd Cymuned
- Caerdydd a'r Fro Ffederasiwn Rhieni
Dogfennau Allweddol
- Cynllunio Cynghori (pdf)
- Cynllun Gweithredu Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gofalwyr 2008-2011 (pdf)
- Carers HSC&WB Strategy Implementation Plan 2008-2011 (pdf)
- Strategaeth Gofalwyr Ifanc Caerdydd (yn unol â Strategaeth Gofalwyr i Gymru Llywodraeth Cynulliad Cymru) (pdf)
- Cynllun Gofalwyr Caerdydd (pdf)
- Strategaeth ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru (pdf)
- Cyd Strategaeth Gomisiynu ar gyfer Gwasanaethau Anabledd Corfforol (pdf)
- Strategaeth Gomisiynu ar gyfer Gwasanaethau Synhwyrau (drafft) (pdf)
- Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Pobl Hŷn
- Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Iechyd Meddwl Oedolion
Dolenni Eraill
- Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr
- Cynhalwyr Cymru
- Croesffyrdd - Gofalu am Ofalwyr
- Rhaglen Cleifion Arbenigol
Cyswllt
Rheolwr y Ganolfan Gofalwyr
Canolfan Gofalwyr Caerdydd a'r Fro
Tŷ Victoria
250 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen
Caerdydd
CF5 1GZ
