Grŵp Gorchwyl a Grŵp Cynllunio Cynghori Trais Domestig a Thrais Rhywiol

Datganiad Cenhadaeth

Mae Fforwm Trais Domestig a Thrais Rhywiol Caerdydd yn grŵp aml-asiantaeth sy'n gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â thrais domestig a rhywiol a lleihau ei effaith ar ddioddefwyr. Y nod yw sicrhau ymateb gwydn a chydweithredol i drais domestig a rhywiol ar draws y ddinas.

Mae hwyluso a datblygu ymateb cydlynol i drais rhywiol a domestig ar draws asiantaethau a'i weithredu hefyd yn nod gan y fforwm.

Mae'r Fforwm yn llywio ac yn mynd i'r afael ag amcanion strategol y Brifddinas Ddiogelach ar gyfer cynlluniau gweithredu trais domestig a rhywiol, ac mae'n llunio cynllun gweithredu blynyddol mewn perthynas â'r Strategaeth Diogelwch Cymunedol. Mae'n gyfrifol am oruchwylio a gweithredu'r ymyriadau y sonnir amdanynt yn y cynlluniau gweithredu. Mae'r Fforwm yn bwriadu gwella gwasanaethau a lleihau trais domestig a rhywiol yn Nghaerdydd drwy weithio mewn partneriaeth.

 

Cyflawniadau Allweddol 2005-2008:

  • Datblygu proses MARAC ar draws y ddinas, yn arwain at leihad yn nifer y bobl sy'n dioddef fwy nag unwaith o 35% i lai na 10%, mae hyn yn gwneud 40% o achosion MARAC yn ddiogel
  • Cynnydd o 15% mewn erlyniadau yn Llys Arbenigol Trais Domestig (06-07)
  • Gwasanaeth Eirioli i ddioddefwyr/goroeswyr gwrywaidd a benywaidd o gam-drin Domestig Uned Diogelwch Menywod Caerdydd (CWSU) (1560 o ddefnyddwyr gwasanaeth) a DYN (120 o ddefnyddwyr gwasanaeth)
  • Cyflwyno Llwybr Gofal Cam-drin Domestig i bob Ymwelydd Iechyd a Bydwraig
  • Swydd Nyrs Cydgysylltu Cam-drin Domestig Arbenigol yn Uned Frys Athrofa Prifysgol Cymru
  • Integreiddio Gwasanaethau'r Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol (IDVA) a'r Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA)
  • Tai - darpariaeth lloches (Cefnogwyd tua 131 o fenywod a 128 o blant gan CWA/BAWSO yn 2006-07)
  • Integreiddio Hyfforddiant Trais Domestig ac Amddiffyn Plant
  • Gwaith atal gyda phlant a phobl ifanc yn cynnwys hyfforddi gweithwyr ieuenctid
  • Rhaglen Caring Dads NSPCC
  • Menywod a phlant a gefnogwyd drwy wasanaethau ymyrryd brys (CWA 2006-07, tua 289 o fenywod)
  • Gweithredu gwasanaethau atal digartrefedd mewn perthynas â thrais neu gam-drin domestig (CWA)
  • Derbyniodd Homesafe £400,000 o'r Oak Foundation i gynorthwyo gyda'r gwaith o galedi targedau digartrefedd yn sgîl trais domestig
  • Cyflogwyd prentis benywaidd o'r Gymuned Ddu ac Ethnig Lleiafrifol, sydd yn amlieithog, gan Homesafe

 

Blaenoriaethau a Phrif Nodau Strategol 2008-2011:

  1. Datblygu amrywiaeth o wasanaethau a mentrau ataliol i blant a phobl ifanc ar draws y ddinas
  2. Creu ymateb gwydn, ar draws asiantaethau, i ymyrraeth frys i blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed
  3. Datblygu a gweithredu gwasanaethau SARC arbenigol i oedolion a phlant sy'n dioddef trais rhywiol
  4. Cynyddu'r amrywiaeth o lety dros dro sydd ar gael ar frys (yn cynnwys Lloches) i fenywod sy'n dioddef o gam-drin domestig (a'u plant)
  5. Datblygu amrywiaeth o wasanaethau i galedi targedau a galluogi dioddefwyr cam-drin domestig i aros yn ddiogel yn eu tai a'u cymunedau eu hunain
  6. Cynnal a datblygu ymhellach amrywiaeth effeithiol o wasanaethau eirioli o bob math ar draws y Ddinas
  7. Monitro, adolygu a datblygu fel bo'n addas yr amrywiaeth o wasanaethau cefnogi sydd ar gael i fenywod a phlant sy'n dioddef o cam-drin domestig (a dynion pan fo angen)
  8. Creu cysylltiadau cryf gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael ar hyn o bryd, a chanfod bylchau, er mwyn llywio gwasanaethau arloesol newydd sy'n cael eu penderfynu ar sail yr anghenion
  9. Creu cysylltiadau cryf gyda gwasanaethau a strategaethau camddefnyddio sylweddau
  10. Datblygu a darparu amrywiaeth o wasanaethau sy'n addas i fenywod a phlant o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig sydd mewn peryg o drais domestig, gyda phwyslais arbennig ar briodasau dan orfodaeth a'r hyn a elwir yn drais er anrhydedd
  11. Datblygu ymatebion addas i blant a menywod sydd mewn perygl o drais ac o gael eu camfanteisio (e.e. camfanteisio rhywiol a'r fasnach mewn pobl)

 

Partneriaid y Fforwm Trais Domestig a Thrais Rhywiol Caerdydd:

Cynrychiolwyr o'r Sector Statudol

- Gwasanaethau Plant
- Tai ac Adnewyddu Cymdogaethau
- Addysg
- Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)

Cynrychiolwyr o'r Sector Gwirfoddol

 

Dogfennau Allweddol

 

Dolenni Gwe Eraill

Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref Cymru Ffôn: 0808 80 10 800

Contact

Gwendolyn Sterk,
Cydlynydd Cam-drin a Thrais Domestig a Rhywiol,
Cymorth i Fenywod Caerdydd,
16 Moira Terrace,
Adamsdown,
Caerdydd,
CF24 0EJ.
Gwendolyn Sterk
Cynghrair Iechyd Caerdydd