Tai ac Adnewyddu Cymdogaethau Cyngor Caerdydd
- Parhaodd Cyngor Caerdydd i ariannu'r Swydd Cydlynydd Sipsiwn a Theithwyr
- Parhau â Rhwydwaith Darparwyr Sipsiwn a Theithwyr
- Datblygu Grŵp Cynllunio Cynghori Sipsiwn a Theithwyr
- Cynhaliwyd diwrnod ymwybyddiaeth Sipsiwn a Theithwyr
- Gosod cyfleuster carthffosiaeth newydd yn Nrenewydd Gelli-farch
- Cael cofrestr ar gyfer Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn Nrenewydd Gelli-farch
- Addasu Neuadd Gymunedol yn Nrenewydd Gelli-farch i wireddu'r canlynol: Hylendid Bwyd (ardal cegin newydd, neuadd gymunedol); Grŵp chwarae wedi'i gofrestru ar gyfer 12 o blant cyn oed ysgol; Clwb Gwaith Cartref; Clwb Celf; dosbarthiadau Theori Gyrru; grŵp menywod.
Gwasanaeth Addysg Teithwyr Cyngor Caerdydd
- Cynhyrchu llyfrau diwylliant sensitif gyda delweddau cadarnhaol o ddiwylliant Sipsiwn a Theithwyr
- Ymweld â phobl wrth ymyl y ffordd o fewn 5 diwrnod gan gynnig cymorth addysgol, mynediad at ysgolion/asiantaethau eraill
- Clwb Cartref yn Nrenewydd Gelli-farch ddwy noson yr wythnos, themâu yn cynnwys: dannedd, bwyta'n iach, ymarfer corff
- Mwy o ddisgyblion yn trosglwyddo i ysgol uwchradd a chynyddu presenoldeb a chyrhaeddiad
- Cyswllt ar gyfer teuluoedd â phlant sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA)
- Clwb Meithrin i'w gychwyn mewn dwy ysgol gynradd, i gynyddu cyfranogiad a hunan-barch
- Cynllun lleoliad gwaith a chynnydd mewn cyngor ar gyflogaeth a gweithgareddau trwy'r Gwasanaeth Addysg Teithwyr ac EQUAL
- Grŵp Menywod a Grŵp Chwarae Wythnosol ar Safle Drenewydd Gelli-farch, gyda dwy fenyw o'r safle yn astudio ar gyfer NVQ lefel 2 mewn Gofal Plant o ganlyniad i'w cyfraniad yn y grŵp chwarae
- Mwy o gyfleoedd i bobl ifanc sy'n Sipsiwn ac yn Deithwyr nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
- System wobrwyo ar gyfer presenoldeb da yn cynnwys ystod o weithgareddau corfforol fel dringo creigiau, sglefrio iâ a 'zip wires'.
Iechyd
- Sefydlwyd fforwm o nyrsys ysgol, ymwelwyr iechyd a bydwragedd sy'n gweithio gyda Sipsiwn a Theithwyr i hyrwyddo arferion gweithio cydlynol, cyfnewid gwybodaeth, cymorth i gyfoedion a datblygiad proffesiynol
- Presenoldeb a chyfraniad rheolaidd yng ngrŵp darparwyr Sipsiwn a Theithwyr Caerdydd
- Cynhaliwyd gweithdy iechyd
- Ysgrifennwyd protocolau Iechyd a Diogelwch ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n ymweld â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ac sy'n darparu gofal i Deithwyr Ymyl y Ffordd
- Drenewydd Gelli-farch wedi'i chynnwys yng nghynllun Dechrau'n Deg sy'n gysylltiedig ag Ysgol Gynradd Greenway.
Project Sipsiwn a Theithwyr Caerdydd
- Sefydlu sesiynau galw heibio rheolaidd am gyngor i deuluoedd, dau fore'r wythnos
- Cynnwys teuluoedd lleol mewn seminarau cenedlaethol a chynadleddau ar faterion Sipsiwn a Theithwyr.
