Ailffurfio gwasanaethau digartrefedd y Cyngor
- Mae uno'r Ganolfan Helpu Tai â'r Uned Cyngor Tai wedi cynnig gwasanaeth ymateb mwy canolog i'r rheiny sy'n chwilio am gymorth. Mae cynnwys partneriaid o'r sector preifat yn yr Uned ddiwygiedig hon, er enghraifft Project Opsiynau Tai Llamau i bobl ifanc a Bwrdd Bond Caerdydd hefyd wedi bod yn fanteisiol wrth roi mynediad i gymorth mwy priodol.
- Mae datblygu amrywiaeth o opsiynau ataliol wedi bod o gymorth i leihau'r nifer o geisiadau am gymorth a'r pwysau a roddir ar y tai sydd ar gael. Mae cymorth ariannol, adolygu opsiynau llety, gweithio trwy faterion perthnasau a chymorth a chefnogaeth ymarferol yn fesurau a ddefnyddir i gynorthwyo i atal digartrefedd.
Peidio defnyddio sefydliadau Gwely a Brecwast
Mae datblygu hostel teulu Nightingale House, sydd â 26 gwely, yn ogystal â chaffael cynllun uned 72 Adams Court wedi cyfrannu at beidio gorfod defnyddio sefydliadau gwely a brecwast fel llety dros dro. Hefyd, gwahanwyd y swyddogaethau o reoli eiddo llety dros dro a'r camu ymlaen o'r tai a osodir er mwyn ei gwneud hi'n fwy effeithiol.
Hosteli Rheng Flaen yn cydweithio er mwyn cyflawni nodau strategol ehangach
Mae'r chwe hostel mynediad uniongyrchol yng Nghaerdydd wedi datblygu trefniadau gweithio i wellau cyfeiriadau rhyngasiantaeth, sy'n cefnogi gwaith y Panel Mynediad sy'n ceisio hwyluso mynediad i wasanaeth i'r defnyddwyr mwyaf anhrefnus. Yn ogystal, mae'r hosteli yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwlâu brys i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, a drefnir gan Gydlynydd Gwlâu Brys.
Ehangu opsiynau ailgyfanheddu
- Yn dilyn ymchwil a'r adroddiad yn ei sgil am flocio gwlâu a phroblemau camu ymlaen yn y ddinas, awgrymwyd newid y Strategaeth Ailgyfanheddu bresennol. Mae'r gwaith hwn wrthi'n mynd rhagddo dan arweiniad grŵp llywio aml-asiantaeth.
- Gwnaethpwyd newidiadau i'r broses cais digartref, er mwyn cynnwys dull tecach o nodi ble fo ceiswyr am gael eu hailgartrefu o fewn yr adnoddau presennol sydd ar gael. Mae mapiau sy'n nodi'r ailosodiadau sydd ar gael ymhob ward yn y ddinas yn help i amlinellu'r problemau gydag ardaloedd sydd â galw uchel a'r diffyg newid mewn eiddo o faint penodol.
- Trwy weithio ar y cyd â Chymdeithas Tai Cadwyn gwnaethpwyd hi'n bosib cyrchu'r adnoddau preswyl na gyrchwyd yn flaenorol yn y sector rhent preifat. Maer cynllun CalonAdref yn prydlesu eiddo heb gelfi i ailgyfanheddu teuluoedd digartref sydd wedi'u derbyn gan y Cyngor dan y ddeddfwriaeth ac mae'r cynllun CalonLettings yn helpu i hwyluso mynediad i osodiadau preifat i deuluoedd a phobl sengl, i'r rhai sy'n symud ymlaen o lety cynaledig.
Codi proffil digartrefedd a materion tai
Bu Caerdydd yn ddigon ffodus i gael Pencampwr Digartrefedd sy'n gefnogol iawn o'r hyn sy'n cael ei gyflawni yng Nghaerdydd, a chodir ymwybyddiaeth Aelodau Etholedig o'r pwysau tai trwy'r cyhoeddiad "A'i Dyna'r Cyfan Sydd ar Gael?" Mae hwn yn amlinellu stoc tai'r Cyngor a'r lefel galw mewn rhai ardaloedd penodol.
Gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu a symud datrysiadau ymlaen am ddigartrefedd
Mae'r Strategaeth Digartrefedd Aml-asiantaeth a'r Grŵp Cynllunio Ymgynghorol wedi bod yn allweddol i symud yr ymateb strategol i ddigartrefedd yng Nghaerdydd yn ei flaen. Cytunwyd ar flaenoriaethu ceisiadau ar gyfer cyllid cymhorthdal y Cyngor, adnodd allweddol i sefydlu canlyniadau arloesol i ddigartrefedd ac mae'r Grŵp yn cydlynu'r Gynhadledd Digartrefedd Flynyddol.
