- Datblygu Strategaeth Cyd Gomisiynu ar gyfer Anableddau Dysgu (2005-08)
- Caffael ac ail-gomisiynu Gwasanaethau Byw Gyda Chefnogaeth a Llety Brys a Gwasanaethau Cefnogi
- Datblygu manyleb gwasanaeth ar gyfer gofynion y dyfodol yn nhermau gofal ysbeidiol a lleoli oedolion a gweithredu proses ail-gaffael
- Mae'r broses dendro ar gyfer gweddill gwasanaethau anableddau dysgu'r Awdurdod Lleol wedi eu cychwyn a disgwylir iddi fod yn gyflawn erbyn Mawrth 2008 ar gyfer projectau Blaenoriaeth Un a Mawrth 2009 ar gyfer projectau Blaenoriaeth Dau
- Datblygu fframwaith rheoli perfformiad newydd i fonitro gwaith contract
- Ceisiadau llwyddiannus am grantiau Cefnogi Pobl (2006-07) i ymestyn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion a'r Cynlluniau Byw Gyda Chefnogaeth
- Derbyn cyllid grant i swyddog adolygu fapio ac asesu defnyddwyr gwasanaeth lewn lleoliadau "Tu Allan i'r Ardal" er mwyn comisiynu gwasanaethau i hwyluso dychweliad y rheiny sy'n bwriadu dychwelyd i Gaerdydd
- Gweithredu hyfforddiant ymwybyddiaeth sy'n canolbwyntio ar gynlluniau sydd â phobl yn ganolog iddo ar draws y sector
- Sefydlu swydd Nyrs Ymgynghorol yn defnyddio arian cyfarwyddyd Adran 7
- Darparu sesiynau hyfforddi ar anghenion pobl ag anableddau dysgu i feddygon teulu yng Nghaerdydd
- Comisiynu gwasanaeth Contractau Meddygol Cyffredinol (GMS) lleol i roi profion iechyd blynyddol i bobl ag anableddau dysgu
- Adolygu a mapio gwasanaethau ymddygiad heriol arbenigol, yn cyfrannu at ddatblygiad y rhaglen amlinellu strategol sydd â'r bwriad o wella gwasanaethau lleol. Roedd hyn yn rhan o'r dystiolaeth a roddwyd i Lywodraeth y Cynulliad yn 2006 mewn cais am gefnogaeth i oblygiadau cyllidol cyfalaf
- Cyfrannodd y Bwrdd Iechyd Lleol a'r Awdurdod Lleol at ddatblygiad y llwybr gofal integredig ar gyfer ymddygiad heriol (er nad yw hyn wedi ei weithredu yng Nghaerdydd eto)
- Cefnogi datblygiad rhaglen hyfforddi safon NVQ newydd ar gyfer pobl sy'n gweithio gydag unigolion ag ymddygiad heriol gan Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg
- Gweithredu'r protocol newid aml-asiantaeth a chyfarwyddyd mewnol i unigolion sy'n symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion
- Tystiolaeth a gasglwyd mewn projectau PEARL yn sail i ofal iechyd parhaus.
Grŵp Cynllunio Ymgynghorol Anabledd Dysgu
Nododd Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd 2008-2011 pobl ag anableddau dysgu fel un o'i blaenoriaethau.
Datganiad Cenhadaeth:
Mae'r Grŵp Cynllunio Cynghori ar Anabledd Dysgu yn bartneriaeth sy'n gyfrifol am ddatblygu, cynllunio a sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau anableddau dysgu yng Nghaerdydd.
Cyflawniadau Allweddol 2005-2008:
Blaenoriaethau a Phrif Nodau Strategol 2008-2011
Ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, y bydd ar lawer ohonynt angen gwasanaeth drwy gydol eu bywydau; mae'r strategaeth hon yn cynnwys tair prif egwyddor ar gyfer cynllunio, comisiynu, darparu gwasanaethau a monitro:
- bod gan bobl hawl i batrwm cyffredin ar fywyd
- yr hawl i gael eu trin fel unigolion
- i dderbyn cymorth a chefnogaeth ychwanegol i gyflawni eu potensial.
Mae gan bobl ag anableddau dysgu amrywiaeth o anghenion sy’n codi’n uniongyrchol o’u nam neu eu cyflwr. Gall rhwystrau economaidd, amgylcheddol, iechyd a chymdeithasol hefyd effeithio arnyn nhw yn fwy nag arfer.
Y prif amcanion strategol, felly, yw:
- Galluogi pobl ag anableddau dysgu i gael mynediad at wasanaeth iechyd sydd wedi ei gynllunio o gwmpas eu hanghenion arbennig unigol, gyda gofal hwylus a chyflym o safon uchel a chyda cefnogaeth ychwanegol pan fo angen. Mae hyn yn wir yng ngwasanaethau'r prif ffrwd (gofal sylfaenol, acíwt ac ataliol) a gwasanaethau anableddau dysgu arbenigol, e.e. prawf iechyd blynyddol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yng Nghaerdydd.
- Herio camwahaniaethu a hybu delweddau cadarnhaol o bobl ag anableddau dysgu ar draws Caerdydd a chynnal asesiadau effaith cydraddoldeb ymhob gwasanaeth. Bydd angen i gomisiynwyr sicrhau bod effaith ac effeithlonrwydd eu gwasanaethau anableddau dysgu comisiynu arbenigol yn ganolog i strategaethau Anabledd a Chydraddoldeb ac efallai y bydd angen iddynt wneud asesiadau effaith cydraddoldeb mewn perthynas ag anabledd, hil, rhyw ac agweddau eraill. Sicrhau bod gwybodaeth yn hwylus i gael hyd iddi gan bobl ag anableddau dysgu.
- Cefnogi pobl i fyw yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain lle bynnag y bo'n ymarferol, i hybu iechyd, annibyniaeth a chynhwysiad cymdeithasol.
- Bwrw ymlaen â'r agenda cyd-gomisiynu ar gyfer anableddau dysgu a datblygu strategaeth a chynllun gwaith ar gyfer 2008-11 yn sgîl hyn.
- Integreiddio rheolaeth dros iechyd a gofal cymdeithasol, timau a gwasanaethau, er mwyn cryfhau cydweithio drwy "hyblygrwydd newydd" a hybu partneriaethau.
- Sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu wrth galon y broses gynllunio ac yn cyfrannu at benderfyniadau a thrafodaethau sy'n effeithio ar eu bywydau.
- Cwblhau'r broses ail-gomisiynu ar gyfer gwasanaethau anableddau dysgu er mwyn ehangu'r Cynlluniau Lleoli Oedolion, ail-lunio gwasanaethau gofal ysbeidiol, gwasanaethau dydd a gwasanaethau dydd arbenigol.
- Gweithredu'r targedau gwella iechyd o fewn gwasanaethau acíwt ysbytai Caerdydd.
- Ailfodelu ac ail-gomisiynu dwy uned Gofal Iechyd Parhaus sydd eisoes yn bodoli er mwyn darparu gofal arhosiad hir a gofal ysbeidiol i bobl ag anableddau lluosog a thrwm.
- Ystyried a bwrw ymlaen ag argymhellion Cynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau Sbectrwm Awtistig Cymru.
- Gweithredu'r protocol Newid a'r cyfarwyddyd i bobl ifanc sy'n symud o Wasanaethau Plant i Wasanaethau Oedolion. Cydlynu'r cynllun gweithredu a grëwyd i fynd i'r afael â'r gwasanaeth.
- Gwarchod pobl ag anableddau dysgu sydd yn anghenus neu sy'n agored i niwed.
- Darparu cefnogaeth di-dor gan wasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol, tai a gwasanaethau perthnasol eraill.
- Sicrhau bod gwasanaethau yn ymateb i anghenion ac yn cael eu hariannu mewn ffordd gynaliadwy.
- Hybu mynediad at ddysgu gydol oed, cyfleoedd gwaith a hamdden.
Partneriaid ar GCC Anableddau Dysgu:
- Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd
- Cyngor Caerdydd (Gwasanaethau Oedolion, Darpariaeth Fewnol a'r Tîm Cefnogi Pobl)
- Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg
- Cyngor Iechyd Cymunedol Caerdydd
- Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a'r Fro
- Pobl yn Gyntaf Caerdydd
- Making Our Voices Heard
- Tîm Anabledd, Ymgynghori ac Adnoddau (DART)
- Advocacy Matters Wales
- Fforwm Anabledd Dysgu
- Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd
- Gwasanaethau Menter Cymdeithasol (VISION 21)
Dogfennau Allweddol:
- Cylch Gorchwyl (pdf)
- Pennod ar Anabledd Dysgu SIGCLl Strategaeth 2008-2011 (pdf)
- SIGCLl Cynllun Gweithredu Strategol, Anabledd Dysgu 2008-2011
- SIGCLl Pennod Crynodeb Strategol, Anabledd Dysgu - FERSIWN HYGYRCH (pdf)
- Adran 7, cyfarwyddyd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. (pdf)
- Protocol newid ar y cyd. (pdf)
- Cynllun Gofalwyr.
- Cynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Cymru 2007
- Fframwaith Cenedlaethol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion.
- Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl 2009-2010 (pdf)
- Polisi Gofal Iechyd Parhaus y GIG (pdf)
- Cynllun Oes: Creu Iechyd a Gofal Cymdeithasol o'r Radd Flaenaf i Gymru yn yr 21ain Ganrif (LlCC, 2005) (pdf)
- Cynllun Gweithredu Strategol y Sbectrwm Anhwylderau Awtistig yng Nghymru (pdf)
Dolenni gwe eraill:
- Grŵp Cynghori ar gyfer Gweithredu ar Anableddau Dysgu (LDIAG)
- Association for Real Change (ARC) - Cynghrair Anableddau Dysgu
- Y Sefydliad Anableddau Dysgu Prydeinig (BILD)
- Ymddiriedolaeth y Princess Royal ar gyfer Gofalwyr
- Anabledd Dysgu Cymru
Cyswllt:
Rheolwr Gwasanaeth Anableddau Dysgu
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW.
