- Cryfhau Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol a phartneriaid perthnasol yn cytuno ar fodel o'r gwasanaeth. Mae'r cynigion hyn yn cynnwys datblygu Swydd Arweiniol mewn Gofal Iechyd Meddwl Sylfaenol a staff iechyd meddwl sy'n gweithio mewn gofal sylfaenol.
- Cychwynnodd yr Ail Tîm Datrys Argyfwng a'r Tîm Triniaeth Gartref ar eu gwaith ym mis Mehefin 2006, sy'n golygu bod gan bob rhan o Gaerdydd fynediad at wasanaeth y Tîm Argyfwng. O ganlyniad i'r Gwasanaeth Argyfwng newydd, caewyd ward yn Ysbyty Yr Eglwys Newydd ym mis Awst 2006.
- Agorodd y Tŷ Argyfwng (y cyntaf yng Nghymru), partneriaeth rhwng y GIG a Gofal Cymru, ym mis Awst 2006.
- Agorwyd uned llety cefnogaeth ddwys gyda 5 gwely i ddynion mewn partneriaeth â'r sector preifat.
- Agorodd Uned Llanfair yn Ysbyty Llandochau, yn darparu dau wardiau i gleifion mewnol. Agorwyd trydedd ward hefyd, yn cymryd lle'r ward cleifion mewnol yn Uned Rawnsley (Athrofa Prifysgol Caerdydd).
- Cyflawnwyd yn llwyddiannus broject peilot TOPSHAPE, yn gweithredu cyfarwyddyd cenedlaethol ar gyfer problemau iechyd meddwl cyffredin mewn gofal sylfaenol.
- Unodd Timau Iechyd Meddwl Sealock a Glan-yr-afon a symud i adeilad newydd addas i'w bwrpas.
- Cafwyd caniatâd cynllunio i Uned Adfer arfaethedig yng Nghanolfan Iechyd Treganna.
- Dechreuwyd cynlluniau ar gyfer Uned Asesu ar gyfer Pobl Hŷn yn Ysbyty Llandochau.
- Dechreuwyd cynllunio Uned newydd i gleifion mewnol ar safle ysbyty'r Eglwys Newydd.
Grŵp Cynllunio Ymgynghorol Iechyd Meddwl
Nododd Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd 2008-2011 fod iechyd meddwl pobl yng Nghaerdydd yn un o'i blaenoriaethau allweddol.
Datganiad Cenhadaeth
Mae Grŵp Cynllunio Cynghori ar Iechyd Meddwl yn grŵp ar y cyd sy'n cynnwys partneriaid o Gaerdydd a Bro Morgannwg. Mae'n gyfrifol am ddatblygu, cynllunio a gweithredu gwelliannau ym maes gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion o oedran gwaith a phobl hŷn yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd ar wahân ar gyfer Caerdydd a'r Fro.
I gael gwybodaeth am strategaeth Bro Morgannwg, dilynwch y ddolen yn yr adran "Dogfennau Allweddol" isod.
Cyflawniadau Allweddol Caerdydd 2005-2008:
Blaenoriaethau a Phrif Nodau Strategol 2008-2011:
- Cefnogi datblygiad amgylcheddau a gwasanaethau sy'n annog pobl a chymunedau i fod yn emosiynol a meddyliol iach drwy gynllun gweithredu hybu iechyd meddwl.
- Lleihau anghydraddoldebau drwy gryfhau'r sail wybodaeth mewn perthynas ag iechyd meddwl i grwpiau penodol o fewn cymdeithas.
- Cryfhau gwasanaethau iechyd meddwl o fewn gofal sylfaenol a'r gymuned ehangach i sicrhau bod pobl yn derbyn gofal addas ac amserol.
- Comisiynu'r uned cleifion mewnol newydd i oedolion.
- Comisiynu'r uned asesu newydd i bobl hŷn yn Ysbyty Llandochau.
- Ail-gomsiynu cyfleuster cymunedol gyda 45 gwely i bobl hŷn.
- Gweithio gyda darparwyr annibynnol i gynyddu nyrsio a gwelyau gofal preswyl i henoed bregus eu meddwl.
- Datblygu Gwasanaeth Fforensig Diogelwch Isel i fenywod, yn cynnwys gwelyau i gleifion mewnol a llety gyda chefnogaeth uchel yn y gymuned.
- Bwrw ymlaen â datblygiadau o fewn y Rhaglen Amlinellu Strategol, yn ddibynnol ar adnoddau - er enghraifft gwasanaethau anhwylderau bwyta, gwasanaethau anhwylderau personoliaeth, dementia cynnar a gwasanaethau allgymorth.
- Gweithredu Cynllun Gweithredu Iechyd Meddwl Fframwaith Gwasanaeth Strategol.
- Gweithredu'r Strategaeth Gwasanaethau Dydd i oedolion.
Partneriaid ar y GCC Iechyd Meddwl
- Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd
- Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cyngor Caerdydd
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cyngor Caerdydd i Bobl Hŷn
- Tîm Cefnogi Pobl Cyngor Caerdydd
- Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cyngor Bro Morgannwg
- Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro
- Abertawe Bro Morgannwg
- Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd Cenedlaethol Caerdydd
- Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd Cenedlaethol Bro Morgannwg
- Cyngor Iechyd Cymunedol
- Project Datblygu Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro
- Hafal
- 4 Winds Centre
- Cymdeithas Alzheimer Caerdydd a'r Fro
- AWETU
- Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd
- MIND yn y Fro
- Cynrychiolaeth gan Ddefnyddwyr Gofal - Caerdydd a'r Fro (gyda chymorth Project Datblygu Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro, pdf)
- Cynrychiolaeth gan Gofalwyr - Caerdydd a'r Fro (gyda chymorth Project Datblygu Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro, pdf)
Dogfennau Allweddol
- Cylch Gorchwyl (pdf)
- Strategaeth SIGCLl Caerdydd 2008-2011, Pennod Iechyd Meddwl (pdf)
- Strategaeth SIGCLl Iechyd Meddwl Caerdydd, Cynllun Gweithredu Strategol 2008-2011 (pdf)
- Strategaeth SIGCLl Bro Morgannwg 2008-2011
- Fframwaith Cenedlaethol Gwasanaeth Iechyd Meddwl Oedolion (pdf)
- Fframwaith Cenedlaethol Gwasanaeth Pobl Hŷn
- GICC: Asesiad Anghenion Iechyd: Iechyd Meddwl (2006) (doc)
- Cynllun Gweithredu Hybu Iechyd Meddwl Cymru (pdf)
- Cynllun Gweithredu Hybu Iechyd Meddwl 2008-2009 (pdf)
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion Cymru: Equity, Empowernment, Effectiveness, Efficiency (pdf)
- Gwasanaethau iechyd Meddwl Plant a'r Arddegau: Everybody's Business (2001) (pdf)
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil Iechyd Meddwl Oedolion 2007 (DRAFFT) (doc)
Dolenni Gwe Eraill
- Project Datblygu Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro
- Cyfeirlyfr Ar-lein Project Datblygu Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro
- Catalydd am Newid
- Iechyd Meddwl Cymru
- Sefydliad Iechyd Meddwl
- GIG Cymru - Tudalennau Iechyd Meddwl
Cyswllt
Cyfarwyddwr Nyrsio
Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd
Trenewydd
Fairwater Road
Llandaff
Caerdydd
CF5 2LD
enquiries@cardifflhb.wales.nhs.uk
healthalliance@cardiff.gov.uk
