Grŵp Cynllunio Ymgynghorol
ar gyfer Pobl Hŷn

Mae Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd 2008-2011 yn nodi fod pobl hŷn yng Nghaerdydd yn un o'i blaenoriaethau allweddol.

 

Datganiad Cenhadaeth

Mae'r Grŵp Cynllunio Ymgynghorol ar gyfer Pobl Hŷn yn gyfrifol am ddatblygu, cynllunio a sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd i bobl hŷn yng Nghaerdydd.

Mae Strategaeth Gomisiynu Pobl Hŷn yn canolbwyntio'n bennaf ar y rhyngwyneb rhwng iechyd a darpariaeth gofal cymdeithasol gartref ac yn y gymuned. Mae'r Strategaeth yn rhoi cyfeiriad strategol i ddatblygiad y gwasanaethau Lefel 1 a ddisgrifir yn "Cynllun am Fywyd" ac yn cydnabod y prif heriau sy'n wynebu'r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd. Mae'r boblogaeth yn heneiddio ac mae'r strategaeth yn cydnabod fod yr opsiynau gofal sydd ar gael i bobl sydd angen gofal hir dymor wedi lleihau.

 

Cyflawniadau Allweddol 2005-2008:

  • Datblygwyd Grŵp Cynllunio Heneiddio'n Iach Caerdydd ac arweiniodd hyn at ddatblygu cynllun gweithredu i roi'r Strategaeth Pobol Hŷn yng Nghymru ar waith yn lleol
  • Datblygwyd y Strategaeth Cyd gomisiynu ar gyfer Llety Pobl Hŷn i lywio comisiynu gofal hir dymor
  • Cwblhawyd y Strategaeth Cyd Gomisiynu ar gyfer Pobl Hŷn rhwng yr Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol
  • Cwblhawyd gwerthusiadau ar gontractau trigo cyfredol
  • Sefydlwyd y gwasanaeth Gofal Gartref byr dymor ar draws y ddinas
  • Cwblhawyd cynlluniau i gomisiynu Uned Gofal Iechyd Parhaus gymunedol ar gyfer pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl, fel rhan o aildrefnu safle ysbyty'r Eglwys Newydd
  • Datblygwyd Llwybrau Gofal Integredig ar gyfer Strôc, Clefyd y Siwgr, Clefydau ysgyfaint (COPD) a chlefydau'r Galon (CHD)
  • Cynyddwyd y llefydd preswyl sydd ar gael ar gyfer gofal dementia o fewn y ddinas
  • Cafwyd cyllid "Creu'r Cysylltiadau" ar gyfer Rheolwr Project i gynllun o fewn y sector gwirfoddol i gynyddu llefydd gofal
  • Cafwyd cyllid Wanless i fwrw ymlaen gydag elfennau o Gynllun gweithredu Heneiddio'n Iach Caerdydd, a ddefnyddiwyd i atal pobl rhag cael damweiniau wrth ddisgyn, gweithgareddau Cydlynu Heneiddio'n Dda (Age Concern), Cynyddu llefydd trin iechyd y cyhoedd, cynllun grant bychan a gwasanaeth cwnsela (Age Concern)
  • Sefydlwyd Gwasanaeth Cyfarpar ar y Cyd
  • Aed ymlaen â'r gwaith o gomisiynu Project Tai Gyda Gofal Ychwanegol.

 

Blaenoriaethau a Phrif Amcanion Strategol 2008-2011:

Mae'r angen i ddarparu a monitro gweithrediad Fframwaith Cenedlaethol Gwasanaeth Pobl Hŷn yn waelodol i'r bflaenoriaethau ac amcanion strategol.

1.       Hyrwyddo bywydau iach i bobl hŷn drwy:
- Gweithredu Cynllun gweithredu Heneiddio'n Iach Caerdydd.
2.       Lleihau anghydraddoldebau drwy gryfhau'r sail wybodaeth mewn perthynas â chydraddoldeb i bobl hŷn o fewn cymdeithas
3.       Helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gymaint o amser â phosibl:
- Cefnogi cynnydd yn y ddarpariaeth gofal ysbeidiol er mwyn bod i gymorth i ofalwyr sy'n gofalu am bobl gartref
- Cynyddu'r defnydd o dechnoleg a Telecare.
4.       Datblygu amrediad o ofal canolradd a gwasanaethau adfer
- Darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn lleol yn y gymuned er mwyn ail-alluogi pobl hŷn.
5.       Gwella gofal i unigolion â chlefydau difrifol drwy:
- Gweithredu'r llwybrau gofal dwys y mae tystiolaeth glinigol yn eu cefnogi ar gyfer strôc, clefyd y siwgr, clefydau'r ysgyfaint a'r galon
- Apwyntio rheolwyr achosion cilinigol i gefnogi unigolion â chyflyrau difrifol yn eu cartrefi eu hunain.
6.       Cynyddur llefydd gofal preswyl sydd ar gael yn y ddinas i fynd i'r afael â'r broblem ddifrifol o oedi wrth Drosglwyddo
          Gofal drwy:
- Sefydlu trefniadau comisiynu ar y cyd a chontractau bloc gyda darparwyr o'r sector annibynnol.
7.       Bodloni safonau NSF ar ddamweiniau disgyn drwy:
- Adolygu a datblygu llwybr gofal integredig i atal a rheoli damweiniau disgyn a thoriadau esgyrn ar draws sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
8.       Cynyddu'r nifer o bobl sy'n derbyn Budd-daliadau Lles drwy:
- Gynyddu'r wybodaeth sydd ar gael am hawliau budd-dal.
9.       Sicrhau fod datblygiadau ym mhob gwasanaeth yn ystyried anfanteision daearyddol a grwpiau bregus.
10.     Datblygu cymorth personol a chymdeithasol i bobl hŷn drwy:
- Weithio'n agosach gyda'r sector
- Cynyddu'r lleoedd a'r sgiliau sydd ar gael o fewn y sector gwirfoddol er mwyn helaethu eu gwasanaethau i bobl hŷn.

 

Partneriaid ar y GCY Pobl Hŷn

 

Dogfennau Allweddol

 

Dolenni Gwe Eraill

 

Cyswllt

Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Uniongyrchol a Gofal Cartref
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinasl
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
enquiries@cardifflhb.wales.nhs.uk
healthalliance@cardiff.gov.uk