Grŵp Cynllunio Ymgynghorol ar gyfer Anabledd Corfforol a Nam ar y Synhwyrau
Mae Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd 2008-2011 yn nodi anabledd corfforol a nam ar y synhwyrau fel un o'i blaenoriaethau.
Datganiad Cenhadaeth
Mae GCC Anabledd Corfforol a Nam ar y Synhwyrau yn gyfrifol am ddatblygu, cynllunio a gweithredu gwelliannau ym maes gwasanaethau i oedolion rhwng 18 a 64 blwydd oedd sydd ag anableddau corfforol, yn cynnwys pobl â nam ar y synhwyrau a phobl â salwch hir dymor gwanychol.
- Datblygu Strategaeth Cyd Gomisiynu ar gyfer Anableddau Corfforol a Nam ar y Synhwyrau
- Datblygu gwasanaethau dydd o fod ar gynllun wedi ei fodelu ar ganolfan ddydd i fod yn gynllun wedi ei fodelu ar wasanaethau dydd cymunedol
- Sefydlu is-grŵp llety o dan y Grŵp Cynllunio Cynghori ar Anableddau Corfforol a Nam ar y Synhwyrau
- Sefydlu is-grŵp defnyddwyr gwasanaeth o dan y Grŵp Cynllunio Cynghori ar Anableddau Corfforol a Nam ar y Synhwyrau
- Cyllido Teleofal - y broses wedi ei sefydlu a'i osod ar waith
- Cwblhau adolygiad ar ffonau ar rent
- Sefydlwyd Gwasanaeth Cyfarpar ar y Cyd
- Cwblhau adolygiad rhanbarthol ar wasanaethau Niwro-Adferol
- Cwblhau Rheolaeth dros Lwybr Gofal Strôc Integredig
- Cyflawni'r targedau o gyfyngu amser aros i 28 wythnos ar draws pob maes gwasanaeth
- Sefydlu Rhwydwaith Cyfeillion Beirniadol - Cynllun Cydraddoldeb Anabledd
- Datblygu Timau Gofal Canolradd yn gyswllt rhwng gofal iechyd a chymdeithasol.
Yn benodol i Nam ar y Synhwyrau:
- Hyfforddi grŵp o staff gofal cartref mewn iaith arwyddion BSL ac ymwybyddiaeth nam ar y synhwyrau
- Cwblhau Ymarfer Meincnodi Namau Gweld Cymru
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth i swyddogion cyswllt ar draws sbectrwm cyfan namau ar y synhwyrau.
- Hybu gwella iechyd pobl ag anableddau corfforol a/neu nam ar y synhwyrau
- Lleihau anghydraddoldebau i bobl ag anableddau corfforol a/neu nam ar y synhwyrau
- Datblygu manyleb ar gyfer gwasanaeth eirioli annibynnol
- Ymestyn y gwasanaeth adsefydlu yn benodol ar gyfer pobl ifanc ag anabledd corfforol
- Datblygu, gweithredu ac ymateb i feysydd blaenoriaeth a nodwyd yn Ngham 2 o ddatblygiad gwasanaethau dydd
- Gwerthuso'r hyfforddiant ymwybyddiaeth o namau corfforol ac ar y synhwyrau sy'n cael ei ddarparu eisoes a datblygu rhaglen gyson o hyfforddiant ymwybyddiaeth i staff
- Gweithredu'r meysydd a nodwyd fel rhai blaenoriaeth yn y strategaeth llety
- Comisiynu gwasanaethau addas ar gyfer darpariaeth ysbeidiol, preswyl a Chartrefi Nyrsio
- Datblygu'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trawsffurfio i bobl ifanc sy'n symud o Wasanaethau Plant i Wasanaethau Anabledd Oedolion
- Gweithredu'r cynllun gweithredu ar Strategaeth Gomisiynu Gwasanaethau'r Synhwyrau
- 1. Gweithredu'r cynllun gweithredu ar Strategaeth Gomisiynu Gwasanaethau Anableddau Corfforol.
Partneriaid ar y GCC ar Anabledd Corfforol a Nam ar y Synhwyrau
Dogfennau Allweddol
Dolenni Gwe Eraill
Cyswllt
Rheolwr Gweithredol
Gwasanaethau Uniongyrchol a Gofal y Cartref
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
enquiries@cardifflhb.wales.nhs.uk
healthalliance@cardiff.gov.uk