- Gosod y ffiniau a'r ddealltwriaeth rhwng y Gwasanaeth Iechyd mewn Carchardai a'r GIG er mwyn datblygu partneriaeth effeithiol yn seiliedig ar gytuno ar flaenoriaethau tra'n adnabod a mynd i'r afael â materion/gwahaniaethau diwylliannol rhwng y GIG a'r gwasanaeth iechyd mewn carchardai
- Sefydlu'r llinell gyllidol sylfaenol unigol cyn trosglwyddo yn Ebrill 2006
- Newid ymarferion presgripsiwn i garcharorion â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn uned dadwenwyno'r carchar, drwy ddefnyddio trefn driniaeth addas
- Darparu gwasanaeth iechyd rhywiol helaeth gan ddefnyddio gweithlu Cenhedlol-Wrinol a sesiynau gydag Ymgynghorydd Iechyd, yn arwain at leihau amseroedd aros o fewn y gwasanaeth.
- Adnabod cyfleodd i ddatblygu gwasanaethau o fewn ffynonellau cyllid cyfredol a rhai sy'n tyfu, gan gynnwys cyllid uwch ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl mewnol.
- Lleihau effaith bywyd carchar a thargedau cynllun Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Carchar (PIP) fel nad ydynt yn effeithio'n andwyol ar anghenion iechyd unigol.
- Datblygu cynllun gweithlu ar gyfer CEM Caerdydd a staff gofal iechyd Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro. Arweiniodd hyn at recriwtio nifer o staff graddfa "B", er mwyn rhyddhau nyrsys cymwysedig, fel sy'n arferiad yng ngwaith cynllunio'r GIG, er mwyn darparu gwasanaeth gofal iechyd meddwl sylfaenol
- Defnyddiwyd ymgynghorydd allanol i gynnal adolygiad helaeth ar anghenion iechyd carcharorion Caerdydd a gwerthuso'r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd i atal afiechyd, canfod afiechyd, lleihau niwed, triniaeth a diwygio ar gyfer problemau iechyd allweddol, ynghyd ag ystyried y rhesymau cymdeithasol ac ymddygiadol sylfaenol
- Sicrhawyd darparwr newydd ar gyfer Gwasanaethau Meddygol yn dilyn ymarfer tendro cenedlaethol
- Cafwyd cyllid i ddyblu'r gwasanaethau deintyddol blaenorol drwy'r Gwasanaethau Deintyddol Personol (PDS), ac ail dendro ar gyfer y gwasanaeth wedi i'r Deintydd blaenorol ymddiswyddo. Mae cyflwyno sesiynau deintyddol ychwanegol wedi lleihau amseroedd aros ar gyfer y rheiny â symptomau acíwt
- Adeiladwyd uned glinigol newydd o fewn y carchar yn cynnwys ardal cleifion mewnol, ag 20 gwely, ar y llawr gwaelod, celloedd sengl gan fwyaf, ac un gell pwysedd negyddol i reoli'r diciâu. Mae hefyd ystafelloedd clinigol ychwanegol, ardaloedd gofal sylfaenol a gofal dydd, stafelloedd deintyddol, fferyllfa, ardaloedd triniaeth a nifer o ystafelloedd gweinyddol. Bydd yr amgylchedd clinigol newydd yn gyfleuster clinigol gwych ac yn galluogi gwireddu ffyrdd newydd o ofal, a mynd i'r afael â bylchau yn y gwasanaeth
Bwrdd Partneriaeth Iechyd mewn Carchardai a Grŵp Cynllunio Cynghori
Nododd Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd 2008-2011 "Gweithio tuag at Ddinas Iach" fod iechyd carcharorion yn CEM Caerdydd yn un o'i blaenoriaethau.
Datganiad Cenhadaeth
Bydd y CGC a Bwrdd Partneriaeth Iechyd mewn Carchardai yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn CEM Caerdydd yn cael eu cynllunio ar y cyd yn effeithiol ac yn effeithlon.
Cyflawniadau Allweddol 2005-2008:
Blaenoriaethau a Phrif Nodau Strategol 2008-2011:
- Hybu gwelliant mewn iechyd, gan ddefnyddio Project Iechyd mewn Carchardai Sefydliad Iechyd y Byd fel sail i'r feddylfryd ac fel fframwaith ar gyfer gwella iechyd.
- Bydd Bwrdd Partneriaeth Iechyd mewn Carchardai yn ymdrechu i leihau anghydraddoldebau drwy ddarparu gwasanaethau gofal iechyd hygyrch yn unol ag argymhellion Asesiad Anghenion Iechyd 2007.
- Comisiynu'r cyfleuster gofal iechyd newydd ac ymchwilio i gyfleoedd i gynnig modelau gwasanaeth gofal iechyd newydd o fewn y carchar.
- Gweithredu llwybr gofal iechyd meddwl Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- Datblygu llwybr gofal cyflawn ar gyfer camddefnyddio sylweddau, yn cynnwys pob agwedd ar y gwasanaeth o fewn y carchar, ynghyd â gofal dilynol yn y gymuned.
- Datblygu strategaeth rheoli clefydau cronig ar gyfer y carchar, yn cyd-fynd â llwybrau gofal cymunedol ar gyfer diabetes, clefyd coronaidd y galon, strôc a chlefydau'r ysgyfaint.
- Diweddaru Polisi Clefydau Trosglwyddadwy'r Carchar er mwyn cynnwys argymhellion adroddiad yr Asesiad Anghenion Iechyd.
- Datblygu systemau technoleg gwybodaeth dros dro i gefnogi'r gwasanaethau gofal iechyd newydd.
- Datblygu rhaglen rheoli tybaco effeithiol a chyflawn yn y carchar, fel rhan o'r broses o weithredu Project Iechyd mewn Carchardai Sefydliad Iechyd y Byd.
- Gweithredu'r cynllun gweithlu ar gyfer y carchar a sicrhau staff sydd â'r cymwysterau angenrheidiol i ddarparu'r gwasanaethau hyn.
- Defnyddio'r fframwaith perfformiad a ddatblygwyd yn ddiweddar i werthuso effaith gwasanaethau gofal iechyd ar iechyd carcharorion yng Ngharchar Caerdydd.
Partneriaid ar y Bwrdd Partneriaid Iechyd mewn Carchardai a'r Grŵp Cynllunio Cynghori
- Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd
- Carchar Ei Mawrhydi Caerdydd
- Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro
- Cyngor Iechyd Cymunedol Caerdydd
- Byrddau Monitro Annibynnol
- Yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH)
- SERCO
Dogfennau Allweddol
- Grŵp Aml-seneddol ar Iechyd mewn Carchardai: The Mental Health problem in UK HM Prisons (pdf)
- Anghenion Iechyd Carcharorion yng Ngharchar Ei Mawrhydi Caerdydd (pdf)
- Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Monitro Annibynnol ar Garchar Ei Mawrhydi Caerdydd 2008 (pdf)
- Cylchlythyr Iechyd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru (2006) 022 Gofal Iechyd Mewn Carchardai (pdf)
- Cynllun Gweithredu SIGCLl 2008-2011, Pennod Iechyd mewn Carchardai (pdf)
- Cynllun Gweithredu SIGCLl 2008-2011, Pennod Iechyd mewn Carchardai a Nam ar y Synhwyrau (pdf)
Dolenni Gwe Eraill
- Rhwydwaith Ymchwil i Iechyd Troseddwyr (Rhwydwaith Ymchwil i Iechyd Carchardai gynt)
- Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Carchardai
- Llywodraeth Cynulliad Cymru: Ystadegau Poblogaeth Carchar Cymru
Cyswllt
Cyfarwyddwr Nyrsio
Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd
Trenewydd
Heol Fairwater
Llandaff
Caerdydd
CF5 2LD
enquiries@cardifflhb.wales.nhs.uk
healthalliance@cardiff.gov.uk
