Grŵp Cynllunio Ymgynghorol
Iechyd Rhywiol

Nododd Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd 2008-2011 "Gweithio tuag at Ddinas Iach" fod iechyd rhywiol pobl Caerdydd yn un o'i blaenoriaethau.

 

Datganiad Cenhadaeth

Bydd y CGC ar Iechyd Rhywiol yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal iechyd rhywiol yn cael eu cynllunio ar y cyd yn effeithiol ac yn effeithlon.

 

Cyflawniadau Allweddol 2005-2008:

  • Ailsefydlu proses Cynllunio Iechyd Rhywiol ar y Cyd
  • Adolygiad Annibynnol gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr ar wasanaethau Genhedol-Wrinol
  • Cefnogi ymgyrch Diwrnod Aids y Byd
  • Gweithredu'r cynllun c-gerdyn gyda phobl ifanc a dau asesydd c-gerdyn mewn dau glwb nos i bobl ifanc dan 18 oed ac estynnwyd hyn i gynnwys Coleg Glan Hafren, Cymdeithasau Tai a hosteli'r digartref
  • Cefnogwyd 18 o ysgolion a rhoddwyd hyfforddiant i gydlynwyr ABCh mewn 12 ysgol uwchradd wrth ddarparu Addysg Rhyw a Pherthnasau o safon uchel
  • Cwblhawyd astudiaeth ymchwil ar sut mae pobl ifanc yn cael gwybodaeth a chyngor ar ryw a pherthnasau; cynhaliwyd digwyddiad i ledaenu'r wybodaeth a chafodd papurau eu hysgrifennu a'u cyhoeddi. Gwnaed ymchwil ar anghenion pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

 

Blaenoriaethau a Phrif Nodau Strategol 2008-2011:

  1. Hyrwyddo iechyd rhywiol pobl ifanc drwy ddatblygu a gweithredu ar y Cynllun Gweithredu Iechyd Rhywiol Pobl Ifanc ymhellach.
  2. Ceisio atal HIV gan dargedu grwpiau risg uchel.
  3. Gwella mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol integredig (gwasanaethau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac atal cenhedlu) i'r boblogaeth gyffredinol a chynllunio ar gyfer cynnydd disgwyliedig yn y galw.
  4. Hyrwyddo'r defnydd o wasanaethau erthylu ar gyfer oedrannau beichiogi iau.
  5. Cynllunio datblygiad gwasanaeth gan roi sylw i gynnydd disgwyliedig yn y boblogaeth sydd â HIV.
  6. Ystyried cyfleoedd i ehangu'r ddarpariaeth gwasanaeth i bobl sydd ag anghenion iechyd seicorywiol.
  7. Adolygu trefniadau i reoli Llurguniad Organau Rhywiol Merched.
  8. Gweithredu gwasanaeth Atgyfeirio Ymosodiadau Rhyw (SARC) i blant ac oedolion sydd wedi eu treisio'n rhywiol.

 

Partneriaid ar y Grŵp Cynllunio Cynghori Iechyd Rhywiol

 

Dogfennau Allweddol

 

Dolenni Gwe Eraill

 

Cyswllt

Cyfarwyddwr Cyswllt Gofal Sylfaenol a Chynllunio Gwasanaeth
Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd 
Trenewydd
Heol Fairwater
Llandaff
Caerdydd
CF5 2LD
enquiries@cardifflhb.wales.nhs.uk
healthalliance@cardiff.gov.uk