- Sefydlwyd y Grŵp Cyd Gomisiynu Camddefnyddio Sylweddau
- Comisiynodd ddadansoddiad o anghenion y boblogaeth er mwyn llywio datblygiad strategaeth gomisiynu camddefnyddio sylweddau
- Cefnogodd weithrediad y Rhaglen Ymyrraeth Cyffuriau ranbarthol
- Sicrhaodd gyllid grant o'r Cyngor Ymchwil Addysgol i Alcohol i gefnogi project "Lions Breath" ar arferion yfed yng nghanol y ddinas
- Sicrhaodd grant cyfalaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i alluogi NewLink Cymru i brynu canolfan pencadlys newydd
- Penodwyd gweithiwr Datblygu Cefnogaeth i Deuluoedd
- Hyfforddwyd gweithwyr o nifer o asiantaethau i weithredu'r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd.
- Datblygwyd polisi camddefnyddio sylweddau i'r Gwasanaeth Ieuenctid, yn cynnwys fersiwn boster i bobl ifanc ac archwiliad dilynol ar Ganolfannau Ieuenctid yng nghyd-destun y polisi hwn
- Datblygwyd pecyn cymorth camddefnyddio sylweddau ar gyfer rhaglen Ysgolion Iach
- Sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaeth AXIS er mwyn cael adeilad parhaol yn y gymuned.
Y Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau a'r Grŵp Cynllunio Cynghori

Nododd Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd 2008-2011 "Gweithio tuag at Ddinas Iach" fod camddefnyddio sylweddau yng Nghaerdydd yn un o'i blaenoriaethau.
Datganiad cenhadaeth:
Mae'r Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau a'r Grŵp Cynllunio Cynghori yn bartneriaeth strategol sy'n datblygu a gweithredu'r Cynllun Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau yng Nghaerdydd. Mae'n darparu fframwaith clir i gyflawni'r nodau ac amcanion strategol allweddol a nodir yn y strategaeth genedlaethol "Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed" a gweithredu Fframweithiau Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyflawniadau Allweddol 2005-2008:
Blaenoriaethau a Phrif Nodau Strategol 2008-2011:
- Hybu gwelliant mewn iechyd drwy ymwneud â chynlluniau lleihau niwed a mentrau atal.
- Lleihau anghydraddoldebau drwy gryfhau'r sail wybodaeth mewn perthynas â grwpiau penodol o fewn cymdeithas.
- Cynyddu'r llefydd ar gael mewn gwasanaethau lleol ar gyfer pobl sy'n camddefnyddio cyffuriau a sylweddau eraill, yn unol â blaenoriaethau a nodir yn y cynlluniau comisiynu lleol/rhanbarthol, mewn perthynas â mynediad agored; gwasanaethau cymunedol; gofal preswyl; gofal cleifion mewnol.
- Lleihau nifer yr achlysuron y mae defnyddwyr gwasanaethau yn rhoi'r gorau i driniaeth hen i hynny gael ei gynllunio o flaen llaw.
- Sicrhau amser aros o 10 diwrnod gwaith rhwng atgyfeirio ac asesu.
- Sicrhau amser aros o 10 diwrnod gwaith rhwng asesu a chychwyn ar driniaeth.
- Pobol ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio gan Dimau Troseddau Ieuenctid i gael asesiad addas o fewn 5 diwrnod gwaith i'r atgyfeiriad.
- Pob person ifanc a atgyfeirir o Dimau Troseddau Ieuenctid i gychwyn ar gynllun gofal ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau'r asesiad.
- Lleihau nifer y troseddau meddiant a adroddir (rhai a ddiffinnir fel rhai all awgrymu y dylid profi am gyffuriau) (Mewn cyswllt â Chytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus 1 y Swyddfa Gartref).
- Cynnig gwybodaeth, cwnsela, sgrinio ac imiwneiddiad lle y bo'n briodol yn erbyn Hepatitis B i bob cleient sy'n chwistrellu cyffuriau.
Partneriaid ar y Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau a'r Grŵp Cynllunio Cynghori:
- Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro
- Cyngor Caerdydd
- Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd
- Prifddinas Ddiogelach
- Heddlu De Cymru
- Gwasanaeth Prawf De Cymru
- CRI
A range of Voluntary & Statutory Sectors are represented on the SMAT.
Dogfennau Allweddol
- Cylch Gwaith GCC (pdf)
- Pennod Strategaeth SIGCLl ar Gamddefnyddio Sylweddau (pdf)
- Cynllun Gweithredu Strategaeth SIGCLl - Camddefnyddio Sylweddau (pdf)
- "Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer Triniaeth Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru", Llywodraeth Cynulliad Cymru (pdf)
- "Rheoli'r Economi Gyda'r Nos a Liw Nos - Fframwaith Drafft i fynd i'r afael â Throseddau, Anhrefn ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig ag alcohol yn Nhrefi a Dinasoedd Cymru" Llywodraeth Cynulliad Cymru (pdf)
- Fframweithiau Triniaeth Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cynulliad Cymru
- "Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed - Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018" Llywodraeth Cynulliad Cymru (pdf)
- Llywodraeth Cynulliad Cymru "Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed - Cynllun Gweithredu Strategaeth Tair Blynedd Camddefnyddio Sylweddau" (pdf)
Dolenni Gwe Eraill
- Y Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau
- Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau
- Dan 24/7
- Gwefan Rhaglen Ymyrraeth Cyffuriau Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Gwefan Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar gyfer Camddefnyddio Cyffuriau
Cyswllt
Cydlynydd SMAT
Partneriaeth Prifddinas Ddiogelach
Tŷ 101
Parc Busnes Porth Caerdydd
Pontprennau
Caerdydd
CF23 8RS
