Grŵp Her Iechyd Caerdydd
Ymgyrch leol sy'n ddatblygiad o'r cysyniad Her Iechyd Caerdydd cenedlaethol yw Her Iechyd Cymru. Y nod yw helpu ac annog unigolion i newid eu ffordd o fyw mewn ffordd gadarnhaol. Mae gwefan Her Iechyd Caerdydd am roi gwybod i unigolion am y cyfoeth o wybodaeth a gweithgareddau sydd ar gael yn y ddinas, fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus ar wella eu hiechyd a'u lles.
Mae Grŵp Her Iechyd Caerdydd yn bartneriaeth sy'n sicrhau y caiff Her Iechyd Caerdydd ei datblygu, ei gweithredu a'i monitro yn unol ag amcanion y cytunwyd arnynt ac yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Nod Her Iechyd Caerdydd yw darparu gwybodaeth i bobl o bob oed, o blentyndod iach i henaint iach. Dyma rai o brif themâu Her Iechyd Caerdydd. Maen nhw oll yn bethau a allai effeithio ar eich iechyd a'ch lles:
- Mwynhewch fwyta'n iach a chael diet cytbwys iachus
- Gwnewch fwy o bethau corfforol i gadw eich calon yn iach a lleihau/ gynnal eich pwysau
- Mae iechyd meddwl positif yn sail dda i iechyd corfforol da a theimlo'n iach
- Yfwch alcohol yn gymedrol a byddwch yn ymwybodol o faint y gallwch ei oddef
- Mwynhewch berthnasau iach a byddwch yn ymwybodol o'ch iechyd hywiol
- Byddwch yn ymwybodol o gamddefnydd sylweddau a dibynadwyaeth arnynt
- Cyfyngwch ar eich defnydd o dybaco - neu rhowch y gorau iddo
Cymrwch yr her i wella eich iechyd drwy fanteisio ar y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd ar gael ichi yng Nghaerdydd.
Darganfod mwy ar safle Her Iechyd Caerdydd.
Partneriaid ar y Grŵp Her Iechyd Caerdydd
- Tîm Partneriaeth Iechyd, Cynghrair Iechyd Caerdydd
- Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro
- Thîm Lleol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru
- Cyngor Caerdydd - Tîm Gwella Iechyd
- Cyngor Caerdydd - Diwylliant, Hamdden a Parciau
- Partneriaeth plant a Phobl Ifanc Caerdydd
- Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd
- Cymunedau yn Gyntaf
- Age Concern Caerdydd
