Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd Caerdydd
Nid yn unig mae Gweithgarwch Corfforol yn cyfrannu at deimlo'n llesol, mae hefyd yn hanfodol ar gyfer iechyd da (Yr Adran Iechyd, AI, 2004). Mae gan bobl sydd â ffyrdd actif o fyw 50% yn llai o risg o ddatblygu clefyd coronaidd y galon, trawiad a diabetes math 2 o'u cymharu â'r rheiny sy'n byw bywyd diog, a gallant leihau'r risg o farw cyn amser gan 20-30% (AI, 2004). Mae gweithgaredd corfforol rheolaidd hefyd yn gysylltiedig gyda â llai o risg o ordewdra, osteoporosis a chancr y coluddyn; gwell iechyd meddwl a mwy o allu ymarferol mewn oedolion hŷn (AI, 2004).
Yng Nghaerdydd, mae'r Grŵp Llywio aml asiantaeth Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd yn arwain gweithrediad lleol y strategaethau cenedlaethol. Mae Strategaeth Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd Caerdydd, a'r Cynllun Gweithredu dilynol yn darparu'r arweiniad ar gyfer y datblygiad a darpariaeth leol.
- Datblygu Strategaeth Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd a Chynllun Gweithredu Caerdydd.
Datblygwyd a darparwyd mentrau datblygu iechyd cymunedol a gweithgarwch corfforol gan gynnwys:
- Cerdded er lles Iechyd (annog pobl ddiog i gerdded yn amlach).
- Cynllun Cyfeirio Ymarfer (annog cleientiaid a gyfeiriwyd, sydd â chyflyrau meddygol mân a chymhedrol i wneud gweithgarwch corfforol).
- Canolfannau Byw'n Iach yn Llaneirwg, Llanrhymni a Butetown/Grangetown.
- ActiveLife (Project a ariennir gan Gronfa'r Loteri Fawr i annog cymunedau i wneud gweithgarwch corfforol).
- Campau'r Ddraig, PESS (Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol) cyflwyno swyddogion 5x60 (annog plant i gyfranogi).
- Chwaraeon Caerdydd (gwaith datblygu chwaraeon a'r gymuned o amgylch cynnydd mewn gweithgarwch corfforol).
- Dau Broject Mentro Allan (Cronfa'r Loteri Fawr, projectau gweithgarwch corfforol awyr agored).
- Menter Nofio am Ddim (8 - 16 oed a 60+ oed).
- Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig - Project Gweithwyr Iechyd Troednoeth, grant bach Bwyd a Chadw'n Heini a Nofio i Ferched yn unig.
22% o oedolion Caerdydd yn unig sy'n dilyn y lefelau awgrymedig o wneud 5x30 munud o weithgarwch corfforol, sy'n llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 34% (Cyngor Chwaraeon Cymru, 2004/5, Arolwg Cyfranogiad Oedolion).
Darpariaeth amrywiol a chynhwysol o gyfleoedd am weithgarwch corfforol er mwyn galluogi mwy o bobl i fod yn fwy actif yn amlach
- 1. Dylanwadu ar y Polisïau Cenedlaethol a Lleol a all gyfrannu tuag at wella iechyd drwy weithgarwch
corfforol, gan sicrhau dull effeithiol ac effeithlon o'i gyflawni.
- Trwy ymdriniaeth ar y cyd rhwng pob agenda iechyd, yn enwedig Bwyd ac Iechyd; a thrwy sicrhau yr ystyrir gweithgarwch corfforol a'u hybu wrth ddatblygu strategaethau perthnasol sy'n effeithio ar iechyd.
- 2. Galluogi pobl i gael y cyfleoedd i fyw bywydau egnïol
- Trwy wella gwasanaethau ac amwynderau; yn anelu i ddarparu; a thrwy hybu cyngor a hyfforddiant cywir, dilys a chyson.
- 3. Hyrwyddo buddion iechyd, cymdeithasol a lles gweithgarwch corfforol.
- Trwy wella'r cyfathrebu rhwng darparwyr a'r gymuned; a darparu negeseuon iechyd clir a chyson trwy nodi dulliau marchnata perthnasol.
Rhwydwaith Fwyd a Gweithgarwch Corfforol Caerdydd
Mae Rhwydwaith Fwyd a Gweithgaredd Corfforol Caerdydd yn bartneriaeth rhwng ystod eang o sefydliadau ac asiantaethau o fewn y GIG, yr Awdurdod Lleol, sectorau Cymunedol a Gwirfoddol sy'n canolbwyntio ar fwyd a gweithgaredd corfforol a sut mae'r rhain yn effeithio iechyd trigolion Caerdydd.
Mae'r rhwydwaith yn darparu cyfleoedd i bawb sy'n gweithio mewn meysydd yn ymwneud â bwyd a gweithgaredd corfforol i gwrdd a rhannu gwybodaeth, arferion gorau, a chyfleoedd dysgu.
Partneriaid ar y Grŵp Gweithgarwch Corfforol Caerdydd
Dogfennau
Dolenni Gwe Eraill