Grŵp Cynllunio Heneiddio Iach

Mae Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd 2008-2011 yn nodi lles pobl hŷn Caerdydd fel un o'i blaenoriaethau.

 

Fframwaith Polisi

Mae agenda polisi ar gyfer datblygu gwasanaeth i Bobl Hŷn yn cael ei ddylanwadu'n gryf gan Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol (FfGC) Pobl Hŷn. Mae FfGCau yn rhan o agenda'r Llywodraeth i wella safonau a cydraddoldeb wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd a chymdeithasol ledled y wlad.

Mae FfGC Pobl Hŷn yng Nghymru yn amlinellu'r safonau cenedlaethol sydd wedi'u cynllunio i sicrhau y gall pobl, wrth dyfu'n hŷn, gadw eu hiechyd, lles ac annibyniaeth mor hir â phosib, a derbyn triniaeth a chymorth prydlon, di-dor ac o ansawdd pryd bynnag y bo'u hangen.

 

Rôl Grŵp Cynllunio Heneiddio'n Iach Caerdydd

Mae'r Grŵp Cynllunio Heneiddio'n Iach yn meithrin amrywiaeth eang o fentrau sy'n diwallu nifer o amcanion o fewn Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Pobl Hŷn a'r Strategaeth Pobl Hŷn. Mae'r grŵp yn adrodd i'r Grŵp Cynllunio Ymgynghorol Pobl Hŷn. Y nod yw darparu ymdriniaeth bartneriaeth, ar y cyd, i ddatblygu mentrau hybu iechyd i bobl hŷn. Mae nifer o fentrau wedi'u gweithredu a'u datblygu hyd yma, ac mae nifer ohonynt yn parhau i fynd rhagddynt, ac yn parhau i gael eu datblygu. Yn eu plith, cyflwynwyd:

  • Ymgyrchoedd Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn a brechu rhag y ffliw
  • Rhaglen grantiau bach i grwpiau gwirfoddol
  • Menter atal cwympo
  • Amrywiaeth o weithgareddau a ddarperir gan y Cydlynwyr Heneiddio'n Iach mewn ardaloedd lleol, a mentrau gweithgarwch corfforol

 

Partneriaid ar y Grŵp Cynllunio Heneiddio'n Iach Caerdydd

 

Dogfennau

 

Dolenni Gwe Eraill