Bwyd ac Iechyd Caerdydd

Diet gwael yw un o'r prif achosion dros iechyd gwael a marwolaeth gynnar. Amcangyfrifir bod oddeutu traean o farwolaethau o glefyd y galon ac oddeutu chwarter o farwolaethau o ganser yn y Deyrnas Unedig yn codi o ddiet gwael (Asiantaeth Safonau Bwyd, 2003).

Am nifer o flynyddoedd mae ymdriniaeth partneriaeth bwyd ac iechyd wedi bod yn gweithredu yng Nghaerdydd dan arweiniad y Grŵp Llywio Bwyd ac Iechyd.

Mae'r Strategaeth Bwyd ac Iechyd yn nodi pum prif thema:

  • Maeth
  • Darpariaeth bwyd
  • Diogelwch bwyd
  • Cynaladwyedd bwyd
  • Addysg a hyfforddiant am fwyd.

Mae'r Strategaeth yn adeiladu ar y safbwynt cenedlaethol "Bwyd a Lles" (Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru/Llywodraeth y Cynulliad, 2003), "Bwyd a Ffitrwydd i Blant a Phobl Ifanc" (Llywodraeth y Cynulliad, 2005) a bydd "Blas am Oes" a "Strategaeth Ansawdd Bwyd" (Llywodraeth y Cynulliad 2007/08) a blaenoriaethau lleol hefyd yn dylanwadu arni.

Yng Nghaerdydd, mae'r ymdriniaeth aml-asiantaeth yn annog cysylltiadau rhwng mentrau bwyd er mwyn cryfhau a sicrhau cysondeb rhwng dieteteg cymunedol, iechyd y cyhoedd, cynaladwyedd bwyd, gwasanaethau rheoliadol, safonau masnach, gwasanaethau cymdeithasol, arlwyo mewn ysgolion, addysg uwch/bellach a'r sector wirfoddol.

 

Prif Gyraeddiaddau 2005-2008

2005 - 2008

  • Sefydlwyd Rhwydwaith Bwyd ac Iechyd Caerdydd yn 2006 i hybu a rhannu arfer gorau mewn darparu bwyd, diogelwch bwyd ac addysg bwyd yng Nghaerdydd.
  • Ystyried asesiad effaith ar iechyd trwy weithdy aml asiantaeth sy'n canolbwyntio ar "Asesiad Effaith Bwyd ar Iechydmewn Ysgolion".

Grwpiau Oedran a Dargedwyd

  • Darparu project 3 blynedd "Bwyd o Bwys" a ariannwyd gan Gronfa'r Loteri Fawr i blant a phobl ifanc yn Nhrelái a Chaerau, gyda chydnabyddiaeth genedlaethol a datblygu sail tystiolaeth.
  • Dechreuodd project Pobl Ifanc o Bwys, a ariannwyd gan Gronfa'r Loteri Fawr ym mis Medi 2006 yn Llaneirwg.

Addysg a Hyfforddiant

  • Gweithredu rhaglen hyfforddi sgiliau Maeth Bwyd Cymunedol safonol ac sy'n achrededig gan y RhCA a gaiff ei ddysgu gan ddietegwyr.
  • Diogelwyd cyllid gan Lywodraeth y Cynulliad a Dechrau'n Deg er mwyn cynyddu'r gallu dieteteg i hysbysu, hyfforddi a chefnogi cymunedau i ddatblygu sgiliau maeth a bwyd. Cynnal gwaith gydag ysgolion a'r blynyddoedd cynnar trwy barhau i ddatblygu arfer da a pholisïau yng Nghaerdydd.
  • Datblygu swyddogaeth y gweithiwr bwyd cymunedol ymhellach er mwyn cefnogi darparu'r gwasanaeth ar lefel leol.

Mynediad i Fwyd

  • Gweithgareddau a gynigir trwy fentrau datblygu iechyd cymunedol, er enghraifft, tri menter bwyd cydweithredol, cyrsiau sgiliau coginio.

Gwobrwyo Rhagoriaeth

  • Sefydlu cynllun gwobrwyo peilot dewis iach i fusnesau yng Nghaerdydd.
  • Peilota Cynllun Gwobrwyo Bwyta'n Iach i sefydliadau y blynyddoedd cynnar.

 

Blaenoriaethau a Nodau Strategol Allweddol 2008-2011

Galluogi a chefnogi pobl i ddilyn diet iach a chytbwys trwy ymdriniaeth holistig, ar y cyd.

  1. Cynyddu'r ddarpariaeth a chaffael o fwyd diogel, maethlon a chynaliadwy i'r holl boblogaeth trwy sefydliadau mawr cyhoeddus, busnesau, grwpiau cymunedol a threfnwyr digwyddiadau.
  2. Codi'r niferoedd sy'n bwyta bwyd maethlon, diogel a chynaliadwy trwy ddatblygu polisïau, addysg a hyfforddiant a darpariaeth bwyd yn y grŵp targed a nodwyd.
  3. Adnabod a dylanwadu polisïau a strategaethau a all effeithio ar faterion bwyd a maeth/iechyd ble fo'n briodol.

 

Rhwydwaith Fwyd a Gweithgaredd Corfforol Caerdydd

Mae Rhwydwaith Fwyd a Gweithgaredd Corfforol Caerdydd yn bartneriaeth rhwng ystod eang o sefydliadau ac asiantaethau o fewn y GIG, yr Awdurdod Lleol, sectorau Cymunedol a Gwirfoddol sy'n canolbwyntio ar fwyd a gweithgaredd corfforol a sut mae'r rhain yn effeithio ar iechyd trigolion Caerdydd.

Mae'r rhwydwaith yn darparu cyfleoedd i bawb sy'n gweithio mewn meysydd yn ymwneud â bwyd a gweithgaredd corfforol i gwrdd a rhannu gwybodaeth, arferion gorau, a chyfleoedd dysgu.

 

Partneriaeth ar y Bwrdd Llywio Bwyd ac Iechyd

 

Dogfennau Allweddol

 

Dolenni Gwe Eraill