Partneriaeth/ Is-grŵp Hybu Iechyd Meddwl
Mae Is-grŵp Hyrwyddo Iechyd Meddwl Caerdydd yn is-grŵp o'r Grŵp Cynllunio Ymgynghorol Iechyd Meddwl Caerdydd. Fe'i sefydlwyd i ddatblygu dull partneriaeth ar gyfer datblygu a darparu cynllun gweithredu hyrwyddo iechyd meddwl yn unol â Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Llywodraeth y Cynulliad ac yn fwy diweddar, Cynllun Gweithredu Hyrwyddo Iechyd Meddwl.
Rôl y Grŵp Partneriaeth
Mae Is-grŵp Hyrwyddo Iechyd Meddwl Caerdydd yn anelu i gefnogi ymdriniaeth partneriaeth ganolog i ddatblygu a darparu arfer gorau mewn gwaith hyrwyddo iechyd meddwl.
Mae'r Is-grŵp Hyrwyddo Iechyd Meddwl yn cynghori ac arwain ar ddatblygu a gweithredu'r cynllun gweithredu (elfen oedolion/pobl hŷn). Mae rhan plant a phobl ifanc o'r cynllun hyrwyddo iechyd meddwl wedi'i datblygu ymhellach trwy sefydlu Grŵp Tasg Iechyd Meddwl ac Emosiynol Plant a Phobl Ifanc o fewn strwythur Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, ac mae gweithgarwch presennol yn cynnwys gwaith ar wrth-fwlio a chwnsela mewn ysgolion.
Mae amrywiaeth o weithrediadau wedi'u cyflwyno hyd yma, gan gynnwys cydlynu'r Cynllun Cyfarwyddeb Llyfrau, adolygu llyfryddiaeth a mapio a rhedeg y cynllun ymgyfeillio, darpariaeth hyfforddi, datblygu a chefnogi gwybodaeth am iechyd meddwl i ddefnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol a gwaith am wrth-stigma.
Partneriaid sy'n rhan o'r Is-grŵp Hyrwyddo Iechyd Meddwl
- Tîm Partneriaeth Iechyd, Cynghrair Iechyd Caerdydd
- Thîm Lleol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro
- Hafal Caerdydd
- Project Datblygu Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro
- Mind Caerdydd
- Cyngor Caerdydd - Gwasanaethau Oedolion
- Cyngor Caerdydd - Diwylliant, Hamdden a Parciau
Dogfennau
- Cylch Gorchwyl Is-grŵp Hyrwyddo Iechyd Meddwl Caerdydd (pdf)
- Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles - Pennod ar Iechyd Meddwl APG (pdf)
- Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles - Cynllun Gweithredu a Monitro - Iechyd Meddwl APG (pdf)
- Cynllun Plant a Phobl Ifanc Caerdydd 2008-2011 (Nod Craidd 3)
- Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Iechyd Meddwl (pdf)
- Cynllun Gweithredu Hyrwyddo Iechyd Meddwl yng Nghymru (2007) Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd Cenedlaethol (pdf)
