Grŵp Partneriaeth Iechyd a Lles
Mae'r Grŵp Partneriaeth Iechyd a Lles yn sicrhau y caiff elfennau Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd eu datblygu, gweithredu a'u monitro yn unol â'r amcanion a gytunwyd gan yr awdurdodau comisiynu. Mae'r Grŵp yn cyfeirio, arwain a monitro gwaith y Grwpiau Tasg Iechyd a Lles a sicrhau bod yr holl strategaethau, sy'n rhan o'r Grwpiau Tasg, yn gyson, wedi'u cydlynu a bod ganddynt ddolenni tryloyw.
Mae'r Grŵp Partneriaeth hefyd yn darparu tystiolaeth i'r Gynghrair Iechyd am yr anghenion newidiol mewn iechyd a lles ac yn rhoi awgrymiadau ar ddatblygiadau a gwelliannau yn y byrdymor, y tymor canolog a'r hirdymor.
Diagram y Berthynas rhwng y Grŵp Partneriaeth Iechyd a Lles a'r Grŵp Tasg Iechyd a Lles
Partneriaeth ar y Grŵp Partneriaeth Iechyd a Lles
- Tîm Partneriaeth Iechyd, Cynghrair Iechyd Caerdydd
- Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro
- Thîm Lleol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru
- Cyngor Caerdydd - Tîm Gwella Iechyd
- Cyngor Caerdydd - Diwylliant, Hamdden a Parciau
- Partneriaeth plant a Phobl Ifanc Caerdydd
- Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd
- Cymunedau yn Gyntaf
