Caerdydd Heb Dybaco

Gwyddys mai ysmygu yw'r achos mwyaf o haint a marwolaeth gynnar y gellir eu hosgoi yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am ladd tua 114,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn (Peto ac eraill, 2003). Mae'r mwyafrif yn marw o'r tair brif haint sy'n gysylltiedig ag ysmygu sigarennau e.e. canser, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (broncitis ac emffysema) a chlefyd coronaidd y galon. Cysylltir ysmygu tra'n feichiog ag erthyliad naturiol, genedigaeth cynamserol, pwysau geni isel a marw-enedigaeth (Coleg Brenhinol Meddygon Llundain, 2002). Nodwyd ysmygu fel y prif reswm dros y bwlch rhwng disgwyliad oes iach ymhlith y cefnog a'r tlawd. Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2003/5, dywedodd dros chwarter (27.1%) o oedolion Cymru eu bod yn ysmygwyr, a chyfradd Caerdydd ychydig yn fwy na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Cyflwynwyd deddf gynhwysfawr ym mis Ebrill 2007, yn dilyn datblygiad allweddol diweddar mewn rheoli tybaco, yn gwahardd ysmygu mewn gweithleoedd caeedig, mannau cyhoeddus ac ar gerbydau teithio a gwaith. Mae rhaglen addysg a gweithgaredd orfodi wedi sicrhau bod pob sector yn cydymffurfio â'r ', yn enwedig y fasnach drwyddedig.

Ymhlith datblygiadau polisi eraill mae'r cynnydd mewn oed cyfreithiol i brynu cynnyrch tybaco o 16 i 18 oed, a gyflwynwyd ym mis Hydref 2007, a'r gofynion sydd ar ddod i osod delweddau graffig o'r effeithiau iechyd ar bob cynnyrch tybaco.

Am flynyddoedd, mae ymdriniaeth partneriaeth i reoli tybaco wedi bod yng Nghaerdydd, sydd ar hyn o bryd yn cael ei arwain gan Bartneriaeth Caerdydd Heb Dybaco. Mae'r grŵp hwn yn cydlynu gwaith rheoli tybaco y partneriaethau Cynghrair Iechyd. Mae'r grŵp yn cynnwys nifer o bartneriaid, er mwyn sicrhau ymdriniaeth integredig ledled y ddinas.

Adolygwyd a diweddarwyd Strategaeth Caerdydd Heb Dybaco'n ddiweddar ar gyfer y cyfnod 2008-2011. Mae Strategaeth Caerdydd Heb Dybaco yn canolbwyntio ar dair ardal weithgaredd - atal, stopio ac amddiffyn.

 

Prif Gyraeddiadau 2005 - 2008

Atal
- sy'n cynnwys gwaith mewn ysgolion a chyda pobl ifanc, er enghraifft Bygiau Baco (ysgolion cynradd) a'r rhaglen ASSIST (ysgolion uwchradd dewisedig, gan gynnwys nifer o ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghaerdydd).
Stopio
- dechreuodd projectau a ariannwyd gan Gronfa'r Loteri Fawr yn ystod 2005-2007, gan gynnwys y rhaglen "2Tuff2Puff" a oedd yn rhoi cyngor i blant yn eu harddegau ar stopio ysmygu, datblygu modelau stopio llwyddiannus â chymunedau Bangladesh a Phacistan Caerdydd a chymorth i fusnesau.
Amddiffyn
- mae mannau cyhoeddus di-fwg wedi eu cyflwyno'n llwyddiannus, a datblygwyd cyngor a chanllawiau ar gyfer adeiladau sydd ag eithriadau penodol o'r ddeddfwriaeth, er enghraifft gwestai a chartrefi gofal.

 

Blaenoroaethau a Nodau Strategol Allweddol 2008 - 2011

Hyrwyddo awyrgylch di-fwg gefnogol a lleihau cyffredinolrwydd ysmygu yng Nghaerdydd

  1. Atal pobl rhag dechrau ysmygu, yn enwedig plant a phobl ifanc, trwy beidio â'u cyflwyno i ffactorau sy'n debygol o'u hannog i ddechrau ysmygu.
  2. Lleihau gwahaniaethau iechyd trwy addysgu aelodau'r gymdeithas sydd fwyaf agored i niwed ac sydd dan anfantais yng Nghaerdydd o effeithiau niweidiol ysmygu tybaco.
  3. Cynyddu'r niferoedd o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau stopio ysmygu arbenigol, yn enwedig y rheiny sydd mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is, menywod beichiog, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phlant yn eu harddegau.
  4. Sicrhau y gweithredir a chynhelir mesurau rheoleiddio gorfodi effeithiol o ran rheoli tybaco (gan gynnwys oed prynu, mananau cyhoeddus di-fwg, hysbysebu a hyrwyddo tybaco a smyglo).

 

Partneriaid sy'n rhan o Bartneriaeth Caerdydd Heb Dybaco

 

Dogfennau

 

Dolenni Gwe Eraill