Amdanom Ni
Sefydlwyd Cynghrair Iechyd Caerdydd mewn ymateb i bolisi'r llywodraeth ar gyfer gwella iechyd a lleihau anghydraddoldeb mewn statws iechyd fel y nodir yn Gwell Iechyd: Gwell Cymru.
Roedd y fframwaith hwn yn sail i ddatblygu Cynghrair Iechyd Lleol ym mhob ardal awdurdod lleol Cymru er mwyn dod ag asiantaethau ar draws sectorau at ei gilydd a gwella iechyd. Roedd pob Cynghrair Iechyd i fod yn bartneriaeth o asiantaethau a oedd â'r dasg o wella iechyd drwy fynd i'r afael ar y cyd â'r penderfynyddion sy'n effeithio ar iechyd pobl.
Lansiwyd Cynghrair Iechyd Caerdydd ym mis Chwefror 2000 gyda'r bwriad o wella iechyd a lles dinasyddion Caerdydd a lleihau'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yn y ddinas.
Mae'r Gynghrair yn gweithio tuag at:
- Ennill gwell dealltwriaeth o sut y gellir cyflawni gwell cynnydd mewn iechyd
- Hybu gweithio unedig ar draws gwasanaethau'r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol.
- Sicrhau gwell cydlyniad rhwng gwasanaethau iechyd ac amgylcheddol lleol
- Cynyddu galluedd a galluoedd lleol o ran sgiliau iechyd cyhoeddus
- Datblygu hyrwyddo iechyd lleol
- Hwyluso rhwydwaith o rannu gwybodaeth
- Rhoi cymorth i gymunedau yn eu hymdrechion i wella iechyd, amodau byw a chyfleoedd bywyd.
Amcanion bras Cynghrair Iechyd Caerdydd yw cynnwys partneriaid lleol er mwyn:
- Hwyluso rhwydwaith ar gyfer rhannu gwybodaeth sy'n arwain at gynnydd mewn iechyd a gwell mynediad i wasanaethau
- Rhoi cymorth i gymunedau yn eu hymdrechion i wella iechyd, amodau byw a chyfleoedd bywyd
- Hyrwyddo gwell cydlyniad a chydweithio rhwng gwasanaethau iechyd, llywodraeth leol a sefydliadau gwirfoddol
- Datblygu hyrwyddo iechyd lleol ar y cyd ag arbenigwyr hyrwyddo iechyd lleol
- Cael gwell dealltwriaeth o sut y gellir dylanwadu ar benderfynyddion cynnydd mewn iechyd a lles
- Nodi anghydraddoldebau iechyd lleol a gweithredu arnyn nhw
- Dod o hyd i ffynonellau ariannol er mwyn cefnogi ei gynlluniau gweithredu.
Cliciwch yma i weld strwythur Cynghrair Iechyd Caerdydd.
Bwrdd Cynghrair Iechyd Caerdydd
Arweinir Cynghrair Iechyd Caerdydd gan Fwrdd, sy'n cynnwys aelodau o ystod eang o sefydliadau a phartneriaid er mwyn adlewyrchu'r agenda bras o'r penderfynyddion iechyd. Mae aelodau Bwrdd Cynghrair Iechyd Caerdydd yn cynnwys amrywiaeth helaeth o sefydliadau a phartneriaid er mwyn adlewyrchu'r agenda iechyd eang.
Cylch Gorchwyl Cynghrair Iechyd Caerdydd (pdf)
Aelodaeth Bwrdd Cynghrair Iechyd Caerdydd (pdf)
Cyfarfod Bwrdd Cynghrair Iechyd Caerdydd (pdf)
Cofnodion Cyfarfodydd Cynghrair Iechyd Caerdydd
Tîm Partneriaeth Iechyd
Mae'r Tîm Partneriaeth Iechyd yn hwyluso gwaith Cynghrair Iechyd Caerdydd ac yn cydlynu datblygu'r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles.
