Cymorth Hygyrchedd
Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob rhan o'r wefan hon mor hawdd i'w defnyddio â phosib i bawb.
Yn dilyn mae cyfarwyddiadau ar sut i gael y gorau o'r wefan hon. Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella'r wefan, yna cysylltwch â ni.
Fersiwn Testun yn unig
Mae fersiwn ar gael o'n gwefan sy'n cynnwys y testun yn unig o'n holl dudalennau gwe. Ni fydd yn dangos unrhyw luniau, ffotograffau na gwaith graffig. I gyrchu'r fersiwn testun yn unig, pwyswch y ddolen "Testun yn unig" yng nghornel dde ar dop y wefan.
Bysellau Cyrchu
Gellir defnyddio bysellau cyrchu gyda'r cyfarwyddiadau canlynol:
- Ar gyfer defnyddwyr Windows, gellwch bwyso "ALT" â'r bysellau cyrchu sydd wedi'u rhestru
- Ar gyfer defnyddwyr Macintosh, gellwch bwyso "CONTROL" â'r bysellau cyrchu sydd wedi'u rhestru
- Bydd pwyso "Enter" wedyn yn mynd a chi i'r dudalen berthnasol.
- Rydym wedi cynnwys y bysellau cyrchu safonol, sy'n cynnwys:
- 1 = Hafan (e.e. Alt + 1 + Enter)
- 2 = Amdanom Ni
- 3 = Strwythur y Gynghair Iechyd
- 4 = Y Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
- 5 = Iechyd a Lles
- 6 = Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- 7 = Cyswllt
- 8 = Opsiynau Arddangos
- 9 = Map Gwefan
- 0 = Cymorth Hygyrchedd
Maint y Testun
Os yw maint diofyn y ffont yn rhy fach neu'n rhy fawr ar eich cyfer, gellwch ei newid trwy ddefnyddio'r newidydd maint ffont o fewn eich porwr.
Newid maint y testun yn eich porwr we:
- Wrth ddefnyddio Internet Explorer Windows (gan gynnwys Pocket IE), defnyddiwch y ddewislen View - Text Size.
- Os ydych yn defnyddio Firefox neu borwr gwe arall gan Mozilla, defnyddiwch y ddewislen View - Text Size;
- Wrth ddefnyddio Safari, defnyddiwch yr opsiwn View - Make Text Bigger;
- Yn Opera, defnyddiwch View - Style - User Mode;
- Ac ar gyfer Internet Explorer Macintosh, a Netscape 6 a 7, defnyddiwch y ddewislen View - Text Zoom;
Os ydych yn defnyddio llygoden ag olwyn arni, efallai y byddwch yn gallu newid maint y testun trwy bwyso'r fysell Control neu Command a throi'r olwyn ar eich llygoden. O fewn rhai porwyr gellwch newid maint y testun trwy ddefnyddio'r bysellau Control neu Command a phwyso + neu -.
Mae modd pennu arddull a lliw y ffont yn ogystal â dewis lliwiau'r cefndir a'r blaendir. Mae'r ffordd yr ydych yn gwneud hyn yn amrywio o borwr i borwr.
- Wrth ddefnyddio Internet Explorer Windows (gan gynnwys Pocket IE), defnyddiwch y ddewislen Tools - Internet Options.
- Os ydych yn defnyddio Firefox neu borwr gwe arall gan Mozilla, defnyddiwch y ddewislen Tools - Options;
- Wrth ddefnyddio Safari, defnyddiwch yr opsiwn View - Make Text Bigger;
- Yn Opera, defnyddiwch y ddewislen View - Zoom;
- Ac ar gyfer Internet Explorer Macintosh, a Netscape 6 a 7, defnyddiwch y ddewislen View - Text Zoom;
Arddull a lliwiau
Ar hyn o bryd, dim ond un arddull diofyn sydd - bydd arddulliau eraill ar gael cyn hir, neu gellwch wrthwneud yr arddull diofyn gan ddefnyddio eich ffeil arddull bersonol.
Dylai defnyddwyr Internet Explorer bwyso ar Tools, Internet Options ac yna'r botwm Colours, Fonts neu Accessibility i newid y cynnwys i ddiwallu eu hanghenion.
Dolenni
Mae gan nifer o ddolenni briodoleddau teitl sy'n rhoi mwy o fanylder am bwrpas y ddolen, oni bai fod y ddolen yn esbonio'r targed yn llawn (er enghraifft pennawd erthygl) yn barod. Ysgrifennir dolenni er mwyn iddynt wneud synnwyr pan na fyddant mewn cyd-destun.
Lluniau
Mae pob llun a ddefnyddir ar y wefan hon yn cynnwys priodoleddau ALT. Nid oes gan graffig addurnol briodoleddau ALT.
Ffeiliau PDF
Mae Adobe® Acrobat® Reader yn feddalwedd y gellir ei lwytho am ddim sy'n caniatáu i chi ddarllen ac argraffu ffeiliau Fformat Dogfennau Cludadwy (PDF) Adobe. Llwytho Acrobat Reader. Gall Adobe hefyd eich cynorthwyo i gyrchu cynnwys trwy ddefnyddio technolegau cynorthwyol megis darllenwyr sgrin neu chwyddhadur sgrin. Gellwch greu dolen i wefan Access Adobe am wybodaeth ar sut i wneud y dogfennau hyn yn hygyrch.
Cydymffurfiaeth â W3C
Mae'r Consortiwm y We Fyd-eang (W3C) yn darparu Canllawiau Hygyrchedd i gynnwys y We (WCAG) i bobl sy'n creu a chynnal gwefannau.
Mae'r canllawiau hyn yn helpu sefydliadau i ddarparu gwefannau hygyrch i bobl sydd ag anableddau. Mae'r canllawiau wedi'u rhannu'n dair lefel blaenoriaeth:
- Blaenoriaeth 1
- Blaenoriaeth 2
- Blaenoriaeth 3
Mae pob tudalen ar y wefan hon yn cydymffurfio â Blaenoriaeth 1 ac mae'r rhan fwyaf o dudalennau'n cydymffurfio â Blaenoriaeth 1 a 2.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal a chadw a gwella hygyrchedd y wefan hon. Ein nod yn yr hirdymor yw darparu gwefan sy'n cydymffurfio â phob lefel blaenoriaeth WCAG.
Adborth
Rydym bob amser yn edrych i wella ein gwefan, ac mae adborth defnyddwyr yn bwysig i ni. Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau ar ôl defnyddio'r wefan, cysylltwch â ni.
