Iechyd a Lles

Mae Cynghrair Iechyd Caerdydd wedi sefydlu nifer o Grwpiau Gorchwyl Iechyd a Lles, a phob un yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau allweddol o'r awdurdod lleol, y gwasanaeth iechyd a'r sector gwirfoddol. Mae'r Grwpiau Gorchwyl yn adrodd i'r Grŵp Partneriaeth Iechyd a Lles sy'n monitro eu cynnydd ac yn cynnig cyfeiriad strategol.

Bydd y tudalennau hyn yn eich arwain o amgylch ein Grwpiau Gorchwyl Iechyd a Lles:

 

Grwpiau Gorchwyl Iechyd a Lles

 

Mae'r Grwpiau Gorchwyl Bwyd, Gweithgarwch Corfforol, a Caerdydd Heb Dybaco yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a monitro eu hamcanion strategol unigol sydd wedi'u cynnwys o fewn yr edefyn Hyrwyddo a Gwell o Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Cliciwch yma i weld y Cynllun Gweithredu Unedig, sy'n perthyn i'r grwpiau uchod. Cliciwch yma i weld y Strwythur Iechyd a Lles. (pdf)

Mae'r Is-grŵp Hyrwyddo Iechyd Meddwl yn adrodd i'r Grŵp Cynllunio Ymgynghorol ar Iechyd Meddwl ac mae'r Grŵp Cynllunio Heneiddio'n Iach yn adrodd i'r Grŵp Cynllunio Ymgynghorol ar Bobl Hŷn, ac mae pennod yr un wedi'u neilltuo iddynt yn y Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles.