Dinasoedd Iach -
Rhaglen Dinasoedd Iach Sefydliad Iechyd y Byd

Mae Cynghrair Iechyd Caerdydd yn cydlynu rhaglen Dinas Iach Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Caerdydd.
Mae rhaglen Dinasoedd Iach Sefydliad Iechyd y Byd, a lansiwyd yn Lisbon yn 1986, yn ymgysylltu llywodraethau lleol â datblygiad iechyd drwy broses o ymrwymiad gwleidyddol, cynllunio yn seiliedig ar bartneriaethau a phrojectau arloesol. Mae'n rhoi pwyslais penodol ar anghydraddoldebau iechyd a thlodi dinesig, anghenion grwpiau sy'n agored i niwed, a phenderfynyddion iechyd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae hefyd yn ceisio cynnwys ystyriaethau iechyd mewn ymdrechion economaidd, adfywio a datblygiad dinesig.
Mae Dinasoedd Iach yn fframwaith lle gellir cysylltu nifer o gydweithrediadau, projectau a mentrau, ar draws nifer o wahanol benderfynyddion iechyd.
Cam V (2009-2013) o Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd: Nodau a Gofynion
Ym mis Medi 2009, cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd Alwad Swyddogol ar gyfer Mynegi Diddordeb yng Ngham V (2009 - 2013) ac ymatebodd Gaerdydd gan gyflwyno mynegiant o ddiddordeb yn ffurfiol gan Arweinydd y Cyngor.
Nod cyffredinol Cam V fydd cael Iechyd a Chyfiawnder Iechyd ymhob polisi lleol. Bydd disgwyl i ddinasoedd fynd i'r afael ag effeithiau iechyd polisïau a strategaethau yn ogystal ag anghydraddoldebau iechyd, cynhwysiant cymdeithasol ac anghenion grwpiau sy'n agored i niwed neu sydd dan anfantais. Bydd gan Cam V dair thema graidd:
Am ragor o wybodaeth am fentrau iechyd a lles, ymwelwch â safwe Caerdydd Dinas Iach.
Thema Graidd 1 - Amgylcheddau Gofalgar a Chefnogol
Materion pwysig:
- Gwell canlyniadau i bob plentyn
- Dinasoedd sy'n ystyriol o oedran
- Mewnfudwyr a cynhwysiant cymdeithasol
- Dinasyddiaeth weithredol
- Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Llythrennedd iach
- Byw'n Iach
- Amgylchedd a Dylunio Dinesig Iach.
Thema Graidd 2 - Byw'n Iach
Materion pwysig:
- Atal clefydau anhrosglwyddadwy
- Systemau iechyd lleol
- Dinasoedd Heb Dybaco
- Cyffuriau ac Alcohol
- Byw'n weithgar
- Iechyd Bwyd a deiet
- Trais a anafiadau
- Lleoliadau iach
- Hapusrwydd.
Thema Graidd 3 - Amgylchedd a Dylunio Dinesig Iach
Materion pwysig:
- Iechyd cynllunio trefol
- Tai ac Adfywio
- Iechyd trafnidiaeth
- Y newid yn yr hinsawdd ac Argyfyngau Iechyd y Cyhoedd
- Diogelwch eiddo a diogelwch personol
- Dod i gysylltiad â swn a llygredd
- Iechyd dylunio trefol
- Creadigrwydd a natur fywiog.
Cais Caerdydd
Cyflwynodd Caerdydd ei gais i Sefydliad Iechyd y Byd ar 11 Mehefin 2009 ynghyd â dogfennau ategol.
Ym mis Hydref cafodd Caerdydd ei hysbysu bod y cais yn llwyddiannus ac fe ddynodwyd Caerdydd yn Ddinas Iach yng Ngham V Rhwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd.
Lansiodd Caerdydd ei rhaglen Dinas Iach ym mis Ionawr 2010 i ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach i ddatblygu cynllun gweithredu manwl ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.


