Caerdydd Dinas Iach
Digwyddiad Caerdydd Dinas Iach

Cynhaliwyd digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mercher 13 Ionawr 2010 i ddathlu'r ffaith fod Caerdydd yn cael ei chydnabod fel Dinas Iach gyntaf Cymru ac yn aelod o Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd (SIB).
Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu ennill statws Dinas Iach gan roi'r cyfle i ymgysylltu â sefydliadau partner i'n helpu i ddarparu'r ymrwymiad a datblygu rhaglen Dinas Iach Caerdydd.
Roeddem yn ffodus o groesawu ystod o siaradwyr enwog ar gyfer y sesiwn bore ynghyd â hwyluswyr gwybodus ar gyfer y gweithdai prynhawn ac roeddem yn ddiolchgar iawn am eu hamser a'u cyfraniad. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld rhaglen y digwyddiad. Mae Proffiliau'r Siaradwyr wedi'u rhestru isod.
Yn y sesiwn bore cyflwynodd Dr Agis Tsouros, Pennaeth Canolfan SIB dros Iechyd Dinesig a Dinasoedd Iach Dystysgrif Dinasoedd Iach SIB i'r Cynghorydd Rodney Berman. Cafodd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd hefyd eu gwobrwyo ag aelodaeth Stadia Iach Cymru a chyflwynodd Dr Matthew Phillpott, Cydlynydd Stadia Iach Ewropeaidd dystysgrif a phlac i Peter Ridsale (Cadeirydd Clwb Pêl-Droed Dinas Caerdydd) a Marc Cahill (Rheolwr Cynorthwyol, Sefydliad Cymunedol Dinas Caerdydd).
Roeddem yn falch iawn bod 110 o bobl wedi gallu bod yn bresennol o'r 220 a gofrestrodd, er gwaethaf yr eira, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran. Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn a defnyddir y wybodaeth o'r gweithdai prynhawn i helpu i ffurfio Cynllun Gweithredu ar gyfer y Rhaglen Dinasoedd Iach.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys:
- Y Cynghorydd John Dixon - Aelod Gweithredol dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Cynghrair Iechyd Caerdydd
- Peter Ridsdale - Cadeirydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
- Dr. Tony Jewell - Prif Swyddog Meddygol Cymru
- Dr. Agis Tsouros - Pennaeth, Canolfan Sefydliad Iechyd y Byd (SIB) dros Iechyd Dinesig a Dinasoedd Iach, Pennaeth Clefydau Anhrosglwyddadwy a Ffordd o Fyw
- Y Cynghorydd Rodney Berman - Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Fforwm Gweledigaeth Caerdydd
- Yr Athro Stephen Monaghan - Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Caerdydd ac Ymgynghorydd mewn Meddyginiaeth Iechyd y Cyhoedd, Iechyd y Cyhoedd Cymru
- Joan Devlin - Cyfarwyddwr Rhaglen Dinasoedd Iach Belfast
- Dr. Matthew Philpott - Cydlynydd Stadia Iach Ewropeaidd
- Neelam Bhardwaja - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymdeithasol , Cyngor Caerdydd
Papurau Briffio
Am ragor o wybodaeth ar raglen Dinasoedd Iach Sefydliad Iechyd y Byd a Rhwydwaith Stadia Iach Ewrop edrychwch ar y papurau briffio canlynol:
Papur briffio - Dinasoedd Iach
Papur briffio - Stadia Iach
Sesiwn Bore Cyflwyniadau Powerpoint
Dr. Tony Jewell:
Our Healthy Future (15.7Mb)
Yr Athro Stephen Monaghan:
Why Cardiff? A Tale of Two Cities (3.7Mb)
Joan Devlin:
Belfast Healthy Cities: Successes & Challenges (18.3Mb)
Dr. Matthew Philpott:
European Healthy Stadia Programme (22.3Mb)
Sesiwn Prynhawn Gweithdai
Gweithdy 01 - Amaeth-Amgylchedd
Gweithdy 02 - Bwyd, Alcohol a Ffordd Iach o Fyw
Gweithdy 03 - Iechyd Cynllunio Trefol
Gweithdy 04 - Trafnidiaeth
Gweithdy 05 - Iechyd yn y Gweithle
Gweithdy 06 - Adfywio, Tai a Chynhwysiant Cymdeithasol
Gweithdy 07 - Diogel, Cyfranogi a Cymunedau Cefnogol
Gweithdy 08 - Gweithgarwch Corfforol
Lluniau o'r Digwyddiad

Eira Ben Bore

Areithiau Bore

O'r chwith i'r dde: Neelam Bhardwaja, y Cynghorydd Rodney Berman, Dr. Matthew Philpott,
Dr. Tony Jewell, Dr. Agis Tsouros, Jan Williams (Prif Weithredwr, UHB Caerdydd a'r Fro),
David Francis (Cadeirydd: UHB Caerdydd a'r Fro, Is-Gadeirydd Cynghrair Iechyd Caerdydd),
Joan Devlin, yr Athro Stephen Monaghan, Christine Jenkins (Rheolwr Gweithredol, Tîm Partneriaeth Iechyd)

Cyflwyno Tystysgrifau: Dr. Agis Tsouros (Sefydliad Iechyd y Byd) yn cyflwyno'r dystysgrif
Dinasoedd Iach i'r Cynghorydd Rodney Berman (Arweinydd Cyngor Caerdydd).

Cyflwyno Tystysgrifau: Dr. Matthew Philpott (Rhwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd)
yn cyflwyno'r dystysgrif Stadia Iach i Peter Ridsdale (Cadeirydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
a Marc Cahill (Rheolwr Cynorthwyol Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd)

Gweithdai Prynhawn

Gweithdai Prynhawn
