Stadia Iach

"Stadiwm iach yw un sy'n hyrwyddo iechyd ymwelwyr, cefnogwyr, chwaraewyr, gweithwyr a'r gymuned o amgylch... Mae'n lleoliad lle gall pobl fynd i gael profiad cadarnhaol ac iach wrth chwarae neu wylio chwaraeon ac sy'n hyrwyddo cyfleoedd cadarnhaol byw'n iach yn y gymuned o amgylch."
Mae gan chwaraeon rôl bwysig i'w chwarae yn y gymuned. Mae pob stadiwm chwaraeon yn lleoliad eiconig sydd mewn safle pwerus i ddylanwadu ar ffyrdd iachach o fyw yn eu cymunedau. Mae miliynau o bobl ar draws Ewrop yn mynychu stadiwm chwaraeon bob wythnos i wylio eu tîm, i weithio, neu i ddefnyddio cyfleusterau'r stadiwm. Cydlynir Rhwydwaith Stadia Iach Ewrop (EHSN) gan Elusen Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd y DU, Heart of Mersey. Ei nod yw hyrwyddo stadia chwaraeon i hyrwyddo mentrau iechyd y cyhoedd y gall cefnogwyr a staff ddewis eu dilyn.
Cysylltwyd â nifer o stadia chwaraeon yng Nghaerdydd i ddechrau i weld a fyddai diddordeb ganddynt mewn ymuno â'r rhwydwaith. Yn dilyn y trafodaethau hyn, cytunodd Stadiwm Dinas Caerdydd i weithio gyda Thîm Partneriaeth Iechyd Cyngor Caerdydd a'r Rhwydwaith Stadia Iach i weithio tuag at statws Stadia Iach.
Ar ôl cwblhau'r cynllun gweithredu cyflwynwyd y cais i EHSN. Yn sgîl cryfder y cais gwahoddwyd Stadiwm Dinas Caerdydd i ymuno â'r Rhwydwaith ym mis Ionawr 2010. Digwyddodd hyn mewn digwyddiad lansio Dinas Iach a gynhaliwyd yn y stadiwm lle cyflwynodd Mr Matthew Philpott (Cydlynydd Stadiwms Iach Ewrop) blac Stadiwm Iach a thystysgrif aelodaeth i'r clwb.
Roedd y nod o gyflwyno cysyniad Stadia Iach i Stadiwm Dinas Caerdydd yn llwyddiant. Wrth ddod yn gynrychiolwyr cyntaf o Gymru yn y Rhwydwaith nododd EHSN mai "dogfen y cais a'r ymyraethau a nodwyd ynddi yw rhai o'r cryfaf rydym wedi'u cael gan stadiwm".
Mae ansawdd y gwaith a gynhyrchwyd wedi codi ymwybyddiaeth o EHSN yng Nghaerdydd a de Cymru. Mae mwy o wybodaeth am y cynllun wedi arwain at ystyried cynlluniau i ymestyn gwaith EHSN.
Dr. Matthew Philpott - Cydlynydd Stadia Iach Ewropeaidd
Papur briffio - Stadia Iach
Cyflwyniad Powerpoint - European Healthy Stadia Programme (22.3Mb)
