Cynghrair Iechyd Caerdydd
Mae gan Gyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ddyletswydd statudol i ddatblygu Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ar y cyd ar gyfer 2011-2014. Rhaid iddo nodi'n glir sut y bwriadwn wella iechyd a lles trigolion ym mhrifddinas Cymru ac adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod cyfnod y ddwy Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles diwethaf.
Cynllun Gweithredol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles 2011 - 2014
Ffeithiau Allweddol am Gynghrair Iechyd Caerdydd
Cynghrair Iechyd Caerdydd yw'r brif bartneriaeth strategol ar gyfer iechyd a lles yng Nghaerdydd, gydag aelodau o'r awdurdod lleol, y gwasanaeth iechyd a'r sector gwirfoddol, ac fe'i hwylusir gan Gyngor Caerdydd.
Mae gan y Gynghrair swyddogaeth allweddol wrth ddylanwadu ar benderfynyddion iechyd trwy dargedu'r camau gweithredu a gymerir er mwyn gwella'r ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, sy'n cyfrannu at iechyd a chynnydd mewn iechyd.
Mae'r Gynghrair yn gweithio tuag at:
- ennill dealltwriaeth ehangach o sut y gellir cyflawni cynnydd mewn iechyd
- Hybu gweithio unedig ar draws gwasanaethau'r sector iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol
- cynyddu galluedd a galluoedd lleol
- datblygu hyrwyddo iechyd lleol
- hwyluso rhwydwaith ar gyfer rhannu gwybodaeth
- a rhoi cymorth i gymunedau i wella iechyd, amodau byw a chyfleoedd bywyd.
Mae yn cynnig cyfarwyddyd a throsolwg o waith y Gynghrair Iechyd, yn unol â dylanwad y rhanddeiliaid ehangach, hynny yw, yr holl unigolion ac asiantaethau hynny a all ddylanwadu ar eu hiechyd eu hunain ac iechyd cymunedau lleol yng Nghaerdydd.
Ers 2003 bu Cynghrair Iechyd Caerdydd yn cynnig yr arweiniad partneriaeth iechyd strategol er mwyn datblygu, gweithredu a monitro'r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles.
Hwylusir Cynghrair Iechyd Caerdydd gan y Tîm Partneriaeth Iechyd yng Nghyngor Caerdydd.
Y Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Y Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Bydd y tudalennau hyn yn eich tywys o gwmpas datblygiad a'r defnydd o'r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles.
Iechyd a Lles
Mae Cynghrair Iechyd Caerdydd wedi sefydlu nifer o Grwpiau Gorchwyl Iechyd a Lles, a phob un yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau allweddol o'r awdurdod lleol, y gwasanaeth iechyd a'r sector gwirfoddol. Mae'r Grwpiau Gorchwyl yn adrodd i'r Grŵp Partneriaeth Iechyd a Lles sy'n monitro eu cynnydd ac yn cynnig cyfeiriad strategol.
Ymgyrch leol sy'n ddatblygiad o'r cysyniad Her Iechyd Caerdydd cenedlaethol yw Her Iechyd Cymru. Y nod yw helpu ac annog unigolion i newid eu ffordd o fyw mewn ffordd gadarnhaol. Mae Grŵp Her Iechyd Caerdydd yn bartneriaeth sy'n sicrhau y caiff Her Iechyd Caerdydd ei datblygu, ei gweithredu a'i monitro yn unol ag amcanion y cytunwyd arnynt ac yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae'r Adroddiad Blynyddol Interim y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Tachwedd 2010 yn sylwi ar iechyd y boblogaeth leol a'r mesurau sy'n cael eu cymryd i wella iechyd a lles lleol yng Nghaerdydd.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae gan Gynghrair Iechyd Caerdydd nifer o Grwpiau Cynllunio Ymgynghorol (GCY) ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau allweddol o'r awdurdod lleol, y gwasanaeth iechyd a'r sector gwirfoddol. Y Grwpiau Cynllunio Ymgynghorol sy'n gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a monitro amcanion strategol eu rhan nhw o'r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Mae'r Grwpiau Cynllunio Ymgynghorol yn atebol i'r Grŵp Comisiynu Strategol sy'n monitro eu cynnydd ac yn cynnig cyfarwyddyd strategol. Bydd y tudalennau am dewislen ar y chwith hyn yn eich tywys o amgylch ein Grwpiau Gorchwyl Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
