Y Strategaeth Iaith a Chyfathrebu

Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru Gyfan (WITS)

Menter ar y cyd rhwng Heddlu Gwent a Chyngor Caerdydd yw'r project hwn. Nod y project yw datblygu gwasanaeth a fydd ar gael i bob corff cyhoeddus yng Nghymru sydd angen gwasanaethau dehongli a chyfieithu. Bydd y project yn datblygu cofrestr o ddehonglwyr cymwys wedi'u hyfforddi ac yn cysylltu ceisiadau gan bob sector o wasanaeth cyhoeddus gyda'r person priodol. Yn ogystal, bydd y project yn datblygu cysylltiadau â chyrff sy'n darparu hyfforddiant a chofrestru er mwyn gallu datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu newydd i gynyddu'r cyflenwad sydd ar gael i gyrff cyhoeddus.

Cyflwynir cam cyntaf y project i Lywodraeth Cynulliad Cymru i'w ystyried ar gyfer arian o dan gronfa Creu'r Cysylltiadau yn haf 2007. Rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad £63,000 tuag at gostau'r project a thelir y gweddill o gronfeydd Heddlu Gwent a Chyngor Caerdydd.

Dechreuodd y project y cam casglu data ddiwedd gwanwyn 2008 a chwblhawyd Cam 1 yn gynt na'r disgwyl ddechrau 2009. Y canlyniad oedd argymhelliad i Lywodraeth y Cynulliad bod achos busnes dichonadwy i helpu i ddatblygu'r gwasanaeth yn seiliedig ar anghenion gwasanaeth ledled Cymru gyfan. Cyflwynwyd cynnig ar gyfer cymorth a chyllid pellach i Lywodraeth y Cynulliad ddiwedd gwanwyn 09. Roeddem yn dal i aros am ganlyniad y dull ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Adroddiad Cryno Gweithredol - WITS (pdf)