Grŵp Comisiynu Strategol

Y Grŵp Comisiynu Strategol (GCS) sy'n sicrhau bod Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Caerdydd yn cael ei datblygu, ei gweithredu a'i monitro yn unol ag amcanion cytûn yr awdurdodau comisiynu.

Mae'r GCS yn darparu'r awdurdodau comisiynu a'r Gynghrair Iechyd â thystiolaeth o'r angen newidiol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gan wneud argymhellion ar gyfer datblygu a gwella'r gwasanaeth yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir.

Mae'r GCS yn cyfarwyddo, arwain a monitro gwaith y Grwpiau Cynllunio Ymgynghorol (GCY), yn unol â nodau ac amcanion y Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, ac yn unol â blaenoriaethau'r Bwrdd Iechyd Lleol a'r Cyngor gan sicrhau bod yr holl strategaethau, sy'n rhan o gyfrifoldebau aelodau'r GCS, yn gyson, wedi eu cydlynu ac â dolenni clir. Er mwyn cyflawni'r cydlyniad a'r cysondeb hwn, mae'r GCS yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cynllunio strategol eraill fel Partneriaeth y Fframwaith Plant a Phobl Ifanc, y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, Partneriaeth Prif Ddinas Ddiogelach a Chompact y Sector Gwirfoddol.

Diagram Perthynas y GCS a'r GCY

 

Aelodaeth

Cyd Gadeirydd y BILl

- Cyfarwyddwr Comisiynu

Joint Chair Council

- Prif Swyddog Gwasanaethau Oedolion ac Iechyd

BILl Caerdydd

- Cyfarwyddyd Nyrsio a Phartneriaethau

Cyngor Caerdydd

- Prif Swyddog Tai, Cyngor a Budd-daliadau

Cyngor Caerdydd

- RhG Tîm Partneriaeth Iechyd

Cyngor Caerdydd

- Rheolwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Sefydliadol

Cyngor Caerdydd

- RhG Tîm Cymorth Comisiynu

Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro

- Pennaeth Cynllunio a Phartneriaethau Strategol

Iechyd Meddwl

- Cadeirydd GCY Iechyd Meddwl

Pobl Hŷn

- Cadeirydd GCY Pobl Hŷn

Partneriaeth y Fframwaith i Blant a Phobl Ifanc

- RhG Partneriaeth Plant a Phobl Ifainc

Anabledd Corfforol

- Cadeirydd GCY Anabledd Corfforol

Anabledd Dysgu

- Cadeirydd GCY Anabledd Dysgu

Gofalwyr

- Cadeirydd GCY Gofalwyr

Camddefnyddio Sylweddau

- Cadeirydd Tîm Gweithredu a GCY Camddefnyddio Sylweddau

Digartrefedd

- Cadeirydd Strategaeth Amlasiantaeth ar Ddigartrefedd a'r GCY

Cefnogi Pobl

- Cadeirydd Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl

Ceiswyr Lloches

- Cadeirydd Rhanddeiliaid Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid a'r GCY

Iechyd Rhywiol

- Cadeirydd GCY Iechyd Rhywiol

Sipsiwn / Teithwyr

- Cadeirydd GCY Sipsiwn a Theithwyr

Cyngor Iechyd Cymunedol

- Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd

Y Sector Gwirfoddol

- Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd